'Haf o Hyd' ydy testun cerdd Aron Pritchard, bardd preswyl mis Awst.
Haf o Hyd
o safbwynt gweithiwr swyddfa!
Aeth Gorffennaf. Haf o hyd ydyw hi,
ac mae鈥檔 dwym! Criw chwyslyd
yn y gwaith 欧m ni i gyd!
Rhoes haf ei greisis, hefyd,
a鈥檔 creisis? Do, fe鈥檔 craswyd bob yr un,
fel hash browns, fe鈥檔 ffr茂wyd!
Ond gwres rhy gynnes a gwyd
i鈥檔 canol 鈥 fe鈥檔 air-coniwyd,
ond nid air-con sy鈥檔 llonni鈥檔 awelon
rhwng waliau i鈥檔 hoeri
sydd fan hyn i鈥檔 swyddfa ni:
Yn yr ha, mae鈥檔 ein RHEWI!
Mae鈥檔 bwerus, mae鈥檔 beiriant y nenfwd!
Anghenfil diwydiant
heb ei ail, ddirgryna bant
芒鈥檌 orchwyl uwch-ddisgyrchiant,
yn gerrynt Arctig araf i鈥檔 fferru,
caiff herio鈥檙 rhai gwytnaf!
Ein gwae dry鈥檔 frethyn gaeaf,
bobble hats heb awel haf,
heb synnwyr! Codwn, hwyrach, rhyw wegian
o鈥檔 rhewgell dan rwgnach
mas i鈥檙 stryd, am funud fach;
man go neis. Mae鈥檔 gynhesach!
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Awst 2018 - Aron Pritchard—Gwybodaeth
Aron Pritchard yw bardd preswyl Radio Cymru ar gyfer Awst 2018.