Podlediad Gorffennaf 9fed - 14eg
Mynydd Parys, Huw Brassington, Stifyn Parri, Evita, Rhian Cadwaladr a threfnu priodasau.
Geirfa Podlediad i Ddysgwyr: Gorffennaf 9fed - 14eg
Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Ìý
Gwrandewch
ar y rhifyn diweddaraf.
Rhaglen Dei
Tomos - Mynydd Parys
Ìý
…Mynydd Parys. Wel, dydy o ddim yn fynydd go iawn, a dydy o ddim yn Ffrainc chwaith. Wedi dweud hynny, yn ei ddydd, Mynydd Parys, ger Amlwch ar Ynys Môn, oedd gwaith copr pwysica'r byd. Ar raglen Dei Tomos wythnos yma, buodd Richard Williams o Langefni yn sôn am rai o'r bobl oedd yn berchen ar y gwaith dros y blynyddoedd...
sylweddoli – to realise
cael cyfoeth o’r tir – to get wealth from the land
amlwg – obvious
pobl ddŵad – incomers
Cymry glân gloyw - Welsh through and through
crud y chwyldro diwydiannol - the cradle of the Industrial
Revolution
waeth i chi ddweud - you might as well say
gwybodaeth arbenigol
- expert knowledge
ymchwilio – researching
diwrnod tyngedfennol - a fateful day
Rhaglen Aled Hughes - Huw Brassington
Mae rhai'n dweud mai Ras Cefn y Ddraig Berghaus yw'r ras anodda yn y byd. Mae'r
ras yn para pum diwrnod, ac mae'n rhaid rhedeg o Gonwy yn y Gogledd i Landeilo
yn y De, 315 cilomedr. Mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn rhedeg hyd at 16 awr y
dydd, ac yn dringo ddwywaith uchder Everest yn ystod yr wythnos. Un gymerodd
ran yn y ras oedd y rhedwr profiadol Huw Brassington. Dyma fo'n dweud wrth Aled
Hughes pa mor anodd oedd y ras iddo fo...
uwchlaw – above
trôns glan – clean pants
egni – energy
gwthio dy gorff i’r eitha – push your body to its limit
manteision – advantages
ffos – ditch
pwysau meddyliol – mental pressure
aberthu cymaint – to sacrifice so much
ffrwtian – spluttering
berwi – boiling
Ìý
Teulu – Stifyn Parri
Amser cinio dydd Llun
roedd yna raglen ddogfen yn sôn am sut mae'r Cymry'n tueddu i gyfarfod efo'i
gilydd.Ìý Un o'r straeon diddorol glywon
ni oedd stori yr actor Stifyn Parri a dyma fo’n rhoi hanes sut gwnaeth o
gyfarfod ei bartner, yn ei ffordd arbennig ei hun...
hunllef – nightmare
rhaglen ddogfen – documentary
tueddu i – tend to
cyn i mi wlychu fy hun - before I wet myself
hyder – confidence
be ddiawl – what the heck?
colur – make-up
ar ôl ychydig – after a while
Stiwdio – Evita
Un o'r sioeau mwya
poblogaidd yn y West End oedd Evita, oedd yn seiliedig ar hanes Evita Peron, un
o'r merched pwysica yn hanes Yr Ariannin. Cafodd y sioe ei pherfformio gynta 40
o flynyddoedd yn ôl yn 1978. Sioe gan y bartneriaeth enwog Andrew Lloyd Webber
a Tim Rice oedd hon wrth gwrs, ac ar Stiwdio wythnos diwetha mi glywon ni
Steffan Rhys Hughes, yn rhoi ychydig o hanes y sioe i ni...
Ìý
Yr Ariannin
– Argentina
ei phwysigrwydd – her importance
wedi gwirioni efo – was bowled over by
fel testun – as a subject
yn ddiweddarach – later on
cyfansoddi – to compose
arweineddys wleidyddol – political leader (female)
llywydd – president
llu o deithiau rhyngwladol - a great many
international tours
i goroni’r cyfan – to cap it all
Bore Cothi – Rhian Cadwaladr
Mae ail nofel Rhian Cadwaladr, Môr a Mynydd, newydd gael ei chyhoeddi. Be yn
union ydy thema'r nofel? Dyma Rhian yn esbonio wrth Shan Cothi...
Ìý
bodoli – to
exist
ers talwm – in the past
croesi’r Iwerydd – to cross the Atlantic
yn ddiweddar – recently
Trefnydd Priodasau – Wedding Organiser
poblogaidd – popular
dyweddïo – to become engaged
golygu – to mean
magwraeth – upbringing
mwynhau yn arw – really enjoying
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.