Odliadur Roygan Alan Llwyd
Cerdd i'r Odliadur gan Alan Llwyd.
Erbyn hyn y mae deugain haf –
er mor anodd yw credu hynny – ers i Brifwyl Caerdydd
ddathlu cyhoeddi dy lyfr;
deugain Awst wedi hen fynd heibio, fel Afon Taf
yn llifo heibio i’w hynt
o ddydd i ddydd, nes i heddiw droi’n flynyddoedd a ddoe;
llithro heibio mor ddiarwybod
ag amser ei hun.
Mae cynnwrf yr Awst hwnnw
yn fyw o hyd ynof fi:
llefarem ac anadlem odlau;
roedd odlau ymhobman, odlau, llond cae o odlau,
odlau yn crwydro ledled
maes yr Ŵyl, gan rymuso’r iaith
wrth gryfhau a dyfnhau ein hawen.
Rhoist inni, yr Awst hwnnw,
ddigon o eiriau i odli â’th enw
fel y gallwn ddathlu dy gamp.
Beth, felly, sy’n odli â Roy?
Paratoi:
Llafuriaist, paratoaist ti
odlau ar gyfer eraill,
a’r odlau yn ffin ac yn droedle,
yn oroesiad ymhob ymryson,
wrth i ni atgyfnerthu ein haith.
Darperaist eiriau parod
ar gyfer y beirdd, bob un.
Ymroi a rhoi:
Ymroi a wnaethost rhag marw o’n hiaith,
ymroi i roi i’r Gymraeg
ddigon o odlau am ddwy genhedlaeth,
o leiaf, Roy. Dy lyfr oedd
sail a chanllaw ein hawen
uwch seiliau a chanllawiau ein llên;
dy lyfr odlau afradlon
ac ynddo ormodedd o odlau,
digon o odlau i feirdd dy genedl fod
yn un â’r traddodiad am byth.
Cyffroi:
Ar Awst yr Å´yl cyffroist yr iaith
i ganu â hyder, wrth iti genhadu
o blaid y gynghanedd,
a pharhau a wnaeth y cyffro hwnnw o Å´yl
i Ŵyl, ac er i’r tawelwch
digyffro dy hawlio di,
buost ti, bob Awst o haf,
yn rhan o’r cyffro hwnnw.
Ffoi:
Ffoaist ti i’th orffwys dwfn
yn rhy annhymig o lawer; er inni ymglywed
â’th lais, distewaist ti
yn rhy gynnar i ganu
dy gân dy hun, er bod gennyt
fwy o odlau na’r un o’r glêr
ar gyfer y gwaith.
Troi:
Trist oedd fel y troaist ti
oddi wrthym mor warthus o gynnar;
troi o’n plith cyn trin plethiad
y gynghanedd ymhellach;
troi, cyn i ti â’r awen
gyflawni dim, ac ail gyfle nid oedd.
Cloi:
Mae’r Eisteddfod yn dod i Gaerdydd
eto eleni, a bydd creu telyneg,
a bydd eto lunio englynion,
ac yno y byddi di
yn ymarhous ymhob ymryson
yn ateb y tasgau eto
o linell i linell, yn cloi englynion
y beirdd, er dy fod, bob Awst,
mor oesol ddiymryson.
Rwyt ti, er hynny, wedi cymryd rhan
ymhob ymryson ym mhabell
y beirdd, er cadw mor bell
ers bron i ddeng mlynedd ar hugain;
a bydd gennyt eleni eto
linell neu ddwy yn englynion
y beirdd, a bydd dy lyfr odlau
yn cau ein llinellau ni
ac yn cwblhau ein cywyddau a’n hawdlau o hyd,
gan barhau yr hyn a ddechreuaist
un Awst ddeugain mlynedd yn ôl.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Yr Odliadur
-
Odliadur Roy Stephens gan Idris Reynolds
Hyd: 01:08
-
Yr Odliadur - Englyn Mererid Hopwood
Hyd: 00:10
-
Yr Odliadur - Englyn Ceri Wyn Jones
Hyd: 00:12