Podlediad Chwefror 10fed - 16eg
Hanes Jack the Ripper, ofn clowniaid. golff, cofis Dre, adar rhamantus a Helen Prosser
Geirfa Podlediad i Ddysgwyr: Chwefror 10fed - 16eg 2018
Rhaglen Aled Hughes - Jack the Ripper
puteiniaid – prostitutes
llofrudd – murderer
llawfeddyg – surgeon
organau cenhedlu – reproductive organs
y dystiolaeth – the evidence
ymchwilydd – researcher
gor-nai – great-nephew
honni – to allege
perthynas – relationship
profi – to prove
Does neb yn gwybod pwy oedd
Jack The Ripper. Mae yna sawl theori wedi bod ynglŷn â'r person laddodd nifer o
buteiniaid yn Llundain yn 1888. Ond oeddech chi'n gwybod bod rhai yn meddwl mai
Cymro, Syr John Williams, oedd y llofrudd? Mae gan Dyfrig Davies ddiddordeb
mawr yn yr hanes ac mi gafodd Aled Hughes sgwrs efo fo ddydd Mawrth.
Y Post Cyntaf – Plwmbo y
Clown
codi ofn – to scare
colur – make-up
dioddef – to suffer
ar ei wyliadwraeth – on the lookout
amlygu – manifest
bobol bach – goodness me
cadw fy mhellter – keeping my distance
i’w cwrdd nhw – to meet them
cyflwr – condition
enw swyddogol – official name
Rhaglen Geraint Lloyd - Clwb Golff Celtic Minor
does dim rhyfedd – It’s not
surprising
cymaint – so many
rheolau – rules
eitha cymhleth – quite complicated
mo’yn – to want
Dach chi'n deall golff?
Dach chi'n gwybod be ydy 'handicap' a 'par'. Dyma i chi Ann Thomas o Glwb Golff Cletic Minor yn
Ystradgynlais yn sgwrsio ar raglen Geraint Lloyd nos Lun, ac yn trio esbonio
rheolau’r gêm...
Dewch am Dro – Cofis
tafodiaith unigryw – an unique
dialect
Cofis – Pob Caernarfon
anhawster – difficulty
amddiffynnol – defensive
o ddifri – seriously
canlyn – courting
gwylltion nhw fi – they angered me
clustan – clout
mwya cegog – the mouthiest
nes fod o’n troi – till he was spinning
Falle nad ydy Clwb Celtic
Minor yr un mor enwog â'r Celtic Manor yng Nghasnewydd ond maen nhw'n amlwg yn
deall eu golff yno. Mae hen, hen hanes i dre Caernarfon wrth gwrs, ac mae gan y
Cofis dafodiaeth unigryw Gymraeg. Ond pa fath o groeso sydd i'w gael gan y
Cofis i'r rhai sy'n dod o du allan i'r dre? Mae'r actores ac awdures Mari
Gwilym yn briod efo'r Cofi Emrys Llewelyn Jones. Dyma hi'n sôn am y croeso
gafodd hi gan rai o ffrindiau Emrys...
Bore Cothi – Adar rhamantus
ar yr olwg cyntaf – at first
bodoli – to exist
cariadus – loving
yn gynhenid – intrinsic
paru am oes – pair for life
hadau – seeds
brasder – fat
ymestyn – to extend
cymar – partner
oesoedd canol – middle ages
Bore Cothi - Cyflwr y Coluddyn
triniaeth – treatment
Cyflwr y Coluddyn – Bowel condition
ymladd – fighting
cael gwared o – to get rid of
ambell i – the occasional
nefoedd – heaven
cyhyd – so long
cymryd rheolaeth – taking Control
meddyginiaeth - medicine
ta beth – in any case
Mi glwyon ni dipyn am
Gyflwr y Coluddyn, Crohn's Disease, ar Bore Cothi ddydd Mercher. Buodd Wendy
Jones yn sôn am fyw efo'r cyflwr ac am y driniaeth holistig sy’n ei helpu...
Yr Oedfa - Helen Prosser
carchar – prison
Parch – Rev
ymgynnull – to congregate
wnaeth fy nharo i – struck me
y broses dderbyn – the reception Process
diraddio – degrade
erthyliad – abortion
cyffuriau – drugs
ysgytwad – a shock
colli rheolaeth – to lose control
Flynyddoedd yn ôl fel rhan
o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith buodd Helen Prosser yn y carchar am ychydig. Ymunodd Helen â’r Parch Gethin Rhys ar Yr
Oedfa bore Sul i sôn am y profiad o fod yn garcharor.
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.