Main content

Newyddion ffug y Dolig

Fel gŵyr pob rhiant cyfrwys
a Santa hyd y tir,
mae angen dos o gelwydd
cyn gallu llyncu’r gwir.

Bu raid i'r doethion clyfar
a Herod o fewn clyw
ddweud celwydd bach hanfodol
i gadw'r gwir yn fyw.

A Joseff — er ei fod o
’di gweld drwy'r angel yn glir,
mor daer roedd o am gredu
bod hwnnw’n dweud y gwir.

Y seren ddisglair eisoes
erbyn cyrraedd uwch y crud
oedd farw ers milenia,
yn gelwydd golau i gyd...

A’r byd i gyd yn dywyll
a’r gaea’n oer a hir
rhyw sgeintiad bach o gelwydd
fel eira dros y gwir

a wneith am nawr i’n twyllo
rhag cael ein llorio’n llwyr
gan rym yr holl wirionedd
a’n tarodd yn rhy hwyr

A thitha’r babi bychan,
a thitha’r seren glir,
mi goelia i’ch holl gelwydd
cyhyd â’i fod o’n wir.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

5 o funudau

Daw'r clip hwn o

Dan sylw yn...