Nadolig Ddoe a Heddiw
Dyma be' hoffai o ei gael eleni i'w roi i'r fechan...
Dyma be hoffai o’i gael eleni
i’w roi i’r fechan. Hoffai roi iddi
gopi carbon o’i hen Nadoligau’i hun,
y rhai sy’n atalnodi’i blentyndod,
a’r cof yn euro’r cyfan fel haul isel.
Festri lawn. Pasiant plant ar ei anterth:
cybolfa abswrd o Teenage Mutant Hero Turtles,
llieiniau llestri dros lygaid, a’r Iesu
rywle’n ei chanol hi’n y gwair.
Adfyrt Yellow Pages ar y bocs eto fyth.
Pan oedd Quality Streets, mae o’n siŵr, yn fwy o faint,
pan oedd rhew yn rhew a gwynt yn wynt go iawn,
dim ond pedair sianel i fflicio rhyngddyn drwy’r pnawn,
a phunt yn drwm mewn poced. Pan gwnâi coeden blastig
y tro yn champion, yn arogli fel atig
a thinsel yn addurn derbyniol amdani.
Amser – dyna a roddai, yn ei holl ogoniant
elastig, cyfnewidiol, wedi’i lapio’n
ddel mewn rhubanau iddi gael
ei riweindio’n flêr fel hen VHS:
amser i’w rwygo ar agor, a’i daflu o’r neilltu
fel papur lapio. Mi ddalith o i drio,
flwyddyn ar ôl blwyddyn. Bron na allai o
alw’r eira’i hun i lawr yn blu o’r awyr.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Rhagfyr 2017 - LlÅ·r Gwyn Lewis—Gwybodaeth
LlÅ·r Gwyn Lewis yw bardd preswyl Radio Cymru ar gyfer Rhagfyr 2017.
Mwy o glipiau Caryl Parry Jones
-
Ynyr Roberts - Swatia'n Dawel—Hwiangerddi
Hyd: 02:55
-
"Faux Pas" ffasiwn!!
Hyd: 03:21
-
Mewn neu mas?! Mas neu mewn!?
Hyd: 00:33
-
Cerdd Nia Powell Bardd y Mis Radio Cymru
Hyd: 01:19