Main content

Iola, Meic

Syrthiodd llen ar eleni
a’i chri’n oer, i’n dychryn ni
ag un clap: rhyw drap dôr hyll
adawodd y lle’n dywyll.
Llwyfan gwag: lle fu’n gwegian
gan sbri, a chwmni, a chân;
heibio oll aethant bellach
a thân iaith, a chwerthin iach,
rhuo mawr, a’r dagrau mân
a’r lliw hefyd o’r llwyfan,
a ddoe, fel cwta ddwyawr
sydd ar ben: daeth llen i’r llawr.

Ddau hwyliog, a’u harddeliad
fynnai glust ar lwyfan gwlad,
a pharhau wna drama ffraeth
anadliad eu cenhedlaeth:
her i actio’n Cymreictod
o flaen neb oll; cyfleu’n bod
o’u calon. Astudio’n stad,
a morol am gymeriad.
Er y llen, mae’r ddau heno
yn rhoi ‘encore’ yn y co’.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Dan sylw yn...