Cywydd Bardd y Mis Geraint Lloyd Owen i Awen a Geraint 08.05.17
Cywydd Bardd y Mis Geraint Lloyd Owen i Awen a Geraint 08.05.17
Dros y penwythnos roedd merch Geraint, Awen, yn priodi, rhoddwyd y cywydd iddi yn gyfarchion.
Cyfarchion Priodas Awen a Geraint (6-5-17)
Hwn yw dydd uno deuddyn
Dyna wyrth gwneud dau yn un.
Hwn yw dydd uno dwy ach,
Duwiol uno dwy linach.
Llawenydd newydd i ni
Rhoi deunydd parhad inni.
Ymhob partneriaeth mae her.
Ymhob priodas mae pryder.
I’r aelwyd daw cwerylon
A rhyw brep bob dydd o’r bron.
Ond ni waeth beth ddywed neb.
Gwenwch yn ôl i’w gwyneb.
Eich hunain buoch unwaith.
Ond rhannu’r gwely a’r gwaith
Raid i chi ar hyd eich oes,
Rhannu rydd werth ar einioes.
Rhannu’r aflwydd a’r llwyddiant
A rhannu’r cur, gant y cant.
Dewis merch od oes i mi,
Hawdd iawn a fydd ei henwi.
Odid mae Awen ydyw.
Main ei gwasg fel maneg yw!
A theg wraig ymhlith gwragedd.
Ni ddaw gwg i dduo’i gwedd.
Yma’n awr, dymunwn ni
Iechyd a’r gorau ichwi.
Boed dôr eich cartref hefyd
Yn ddôr tangnefedd o hyd.
A hyd y Farn hyfryd fydd
Eich gweled hefo’ch gilydd.
Geraint Lloyd Owen
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Mai 2017 - Geraint Lloyd Owen—Gwybodaeth
Geraint Lloyd Owen yw bardd radio Cymru ar gyfer Mis Mai 2017.