Main content
Rhywle ym Meirion gan Geraint Lloyd Owen
Rhywle ym Meirion gan Geriant Lloyd Owen
Mae’r ffordd i’r mynydd weithiau’n hwy na hyn,
ond heno mae rhyw amcan iddi hi.
Rhyfedd yw’r cyfeillgarwch ger y llyn,
A thithau’n hŷn na’m dyddiau olaf i;
eto, ni synnaf cans i’r enaid llesg
fe ddaw anghofrwydd o gostrelau’r hwyr
a gweled machlud haul yn ffaglu’r hesg
sy’n ddarlun nas anghofir fyth yn llwyr.
Mae rhywbeth rhyngom ni yn gadwyn hardd,
rhywbeth heb ffurf na llun sydd eto’n bod,
rhywbeth na all arlunydd, gwlad na bardd
roi iddo fywyd llawn a chyflawn glod.
Paham y deuthum heno ni wn i
ond gwn na chysgwn heb gael sgwrs â thi.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Mai 2017 - Geraint Lloyd Owen—Gwybodaeth
Geraint Lloyd Owen yw bardd radio Cymru ar gyfer Mis Mai 2017.
Mwy o glipiau Geraint Lloyd Owen
-
Hanes Yr Iaith - Caffi
Hyd: 06:47