Main content

Cerdd Nia Powell Bardd y Mis Radio Cymru

Etholiad Gogledd Iwerddon Mawrth 2017

O ing angerdd
Sect, ynys werdd
Ddoe bardduwyd
A鈥檌 rhoi dan rwyd
Dolur dwywlad,
Yn gaeth i gad.
Pen diben dyn
Gwylio gelyn,
Amarch carchar
O gosb i鈥檙 gw芒r
A gwaedd Gwyddyl
Yn nos pob cnul.

Trwy waed pob trin,
Hiraeth Erin
Yw c芒n y caeth
Digymdogaeth,
Llais yn llawn llid,
A rhodd rhyddid
I dorf derfysg
Ymhell o鈥檜 mysg.

A ddaeth hi鈥檔 ddydd
Oed y gwleidydd?
Adlodd pleidlais
Yw troi o鈥檙 trais
I lon y wlad
Un dymuniad
Heb 么l bwled -
Rhoi croes, rhoi cred
Yn un ynys
O鈥檌 llan i鈥檞 llys.
Hwyrach, Erin
脗鈥檌 phobl heb ffin.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o

Dan sylw yn...