Tommo gan Idris Reynolds
TOMMO
‘Dyw Beirdd y Mis ddim yn mynd ar Tommo,
Mae’n well ‘da nhw’r Talwrn, Dei Tomos a Stiwdio.
‘Dy’n nhw ddim yn awyddus gan fod yr awen
Yn rhy ddrwgdybus o gyflwynydd llawen.
Nid yw ‘whare dwli yn rhoi llwyfan addas
Ar gyfer darllen campweithiau barddas.
Pwy all ddweud gwirioneddau’n deidi
Mewn mydr ac odl yng Nghwmrâg Aberteifi ?
Amhosib barddoni yn iaith y Mwldan
Lle mae pob ‘fe’ yn ‘hi’, a phob ‘hi’ yn fachan.
A ‘sdim pwynt poeni gydag odlau dwbwl
Pan fo’r Teifi Seid wedi dweud y cwbwl.
Fe ŵyr y beirdd beth ydyw perfformio
Ac adrodd cerddi lle bydd neb yn gwrando.
Mae angen rhywun â llais gwahanol
I ganu cân sydd yn swyno’r bobol.
Gyda’i wresogrwydd a’i ateb parod
Mae Tommo’n llwyddo gan fod e’n gwybod
Fod gofyn am dipyn mwy na geirfa
I ennill calon ei gynulleidfa.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Chwefror 2017 - Idris Reynolds—Gwybodaeth
Idris Reynolds yw bardd Radio Cymru ar gyfer Chwefror 2017.
Mwy o glipiau Tommo
-
Tacsi Tommo gyda Thri Tenor Cymru
Hyd: 06:55
-
Tacsi Tommo gyda Dyfan Rees
Hyd: 10:45
-
Tacsi Tommo gyda Rhian Haf
Hyd: 10:32