Main content

Y Gwin Gwyn

Nodi 'Diwrnod y Sauvignon Blanc'

Tra byddwch chi’r moethus deallus a doeth
yn sipian eich gwin mewn rhyw gegin fawr goeth
ac yn dathlu diwrnod y Sauvignon gwyn,
ystyriwch y twpyn sy’n eistedd fan hyn.

Rhaid imi gyfaddef na wn i ddim byd
am dablen na diod na’r gwirod i gyd;
mae ambell ddyn hyddysg a ŵyr sut i’w trin,
gan siarad fel gwrw am gwrw a gwin;

Ond dyma’r wybodaeth a’m trawodd i’n syn:
fod un dydd penodol i’r Sauvignon gwyn,
a phawb heddi weli yn agor poteli
drwy Ewrop i gyd, o Toulouse i Bwllheli.

Ond wedyn meddyliais, dyna dipyn o dreth
yw trefnu un diwrnod ar gyfer un peth;
Edrychais y we, mae ’na restr ar gael,
a dyddiad arbennig i bopeth dan haul.

A gwelais mewn syndod ar y nawfed o Fai
y bydd sane colledig yn cael eu coffau,
pob hosan fach unig a gollodd ei chwâr
yn rhywle’n y golch. Ac mae ’da fi lond drâr.

Mae gen i hen Hotpoint sydd â meddwl ei hun,
mae’n bwyta fy sanau bob bore dydd Llun,
ond beth bynnag yw’r golch wnaiff e byth fwyta pâr,
a phob tro, bydd na un hosan od, yn un sbâr.

Ond os bydd y nawfed o Fai’n dywydd ffein
fe roddaf y rhes sane od ar y lein
a thalaf wrogaeth i’r holl dri deg tri
am fod eu bodolaeth mor iwsles â fi.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau