Y Mannwyd - Gruffudd Owen
Y Mannwyd
Daeth Gwanwyn wedi鈥檙 Gaeaf llwm,
yr hirlwm a aeth heibio,
ond uwch fy mhen mae cwmwl llwyd,
mae鈥檙 Mannwyd wedi taro.
Rwyf yn y t欧 mewn dressing gown
yn llawn hylifau afiach
a bocsys tisiws ym mhob man.
Rwy鈥檔 teimlo鈥檔 wan fel cadach.
Rwyf yn fy ngwely鈥檔 chwysu鈥檔 stecs,
a鈥檙 kleenex bron ar ddarfod
a minnau鈥檔 amau bob rhyw awr
fod y diwedd mawr ar ddyfod.
Mae 鈥檓hen yn pwyso ugain st么n,
mae afon hyd fy nhrawswch,
ni welwch fyth er crwydro hyd
y byd y ffasiwn fadwch.
A minnau鈥檔 gaeth i boenau鈥檙 clwy
pendronaf pwy ga鈥檌 feio.
Pwy bynnag oedd, caiff fynd i鈥檙 diawl
y sawl a wnaeth fy heintio.
Ond gyda help fy radio fach
a jioch go iach o wisgi
fe ddof drwy鈥檙 Mannwyd gwaetha 鈥檙ioed
芒 Geraint Lloyd yn gwmni.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd y Mis: Gruffudd Owen—Gwybodaeth
Cerddi gan fardd preswyl Radio Cymru ar gyfer Mawrth 2016.
Clipiau Radio Cymru—Gwybodaeth
Uchafbwyntiau o raglenni 91热爆 Radio Cymru.