Cocyls a Mysyls
Cocyls a Mysyls gan Mair Tomos Ifans.
COCYLS A MYSYLS – ( neu Moli Mael Eòin )
Ddydd Sul mae y rygbi, hwylio o Gaergybi,
A glanio’n Dún Laoghaire – yn yr hen Ynys Werdd,
Bydd y shamroc a’r cennin yn canu a chwerthin,
Fydd hi’n gocyls a mysyls - Hei ho hei di ho.
Hei ho hei di ho, Hei ho hei di ho -
Fydd hi’n gocyls a mysyls -
Hei ho hei di ho.
Gobeithiaf gael cwmni rhyw Wyddel go hynci,
A’i enaid llawn Blarney ac alaw a dawns,
Bydd ei shamroc a’m cennin yn canu a chwerthin,
Fydd hi’n gocyls a mysyls - Hei ho hei di ho -
Hei ho hei di ho, Hei ho hei di ho -
Fydd hi’n gocyls a mysyls -
Hei ho hei di ho
Bum unwaith i’r Alban at y pibau a’r sporan,
Ond roedd Joc yn rhy wantan, mi chwythodd ei blwc,
Doedd ei ysgall na’m cennin
Ddim awydd chwerthin,
Dim cocyls na mysyls, Dim hei a dim ho -
Dim hei a dim ho, Dim hei a dim ho -
Dim cocyls na mysyls -
Dim hei a dim ho.
Anghofiwch y Ffrancwyr, ‘sdim hôps i’r Eidalwyr
Na’r Saeson disynnwyr i’m hudo i’w gwlad,
Mond shamroc o Werddon
Sy’n goglais fy nwyfron,
Efo’i gocyls a’i fysyls - hei ho hei di ho -
Hei ho hei di ho, Hei ho hei di ho -
Fydd hi’n gocyls a mysyls -
Hei ho hei di ho
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Chwefror 2016: Mair Tomos Ifans—Gwybodaeth
Bardd y Mis ar gyfer Chwefror 2016 yw Mair Tomos Ifans.