Bow Street, Aberystwyth: Yr amlen werdd a straeon eraill gogledd Ceredigion
Mae pobl gogledd Ceredigion wedi rhoi lluniau a llythyrau i arddangosfa o'r Rhyfel Mawr.
Agorwyd arddangosfa yn Bow Street ger Aberystwyth yn 2014 i nodi canmlwyddiant ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Roedd yn cynnwys eitemau sydd wedi'u rhoi gan bobl gogledd Ceredigion - lluniau a llythyrau gan berthnasau a fu'n ymladd yn y Rhyfel Mawr.
Mae rhan o'r arddangosfa yn adrodd hanes JM Davies a ysgrifennodd lythyr Cymraeg adre.
Cafodd y llythyr ei gamddeall gan y sensor a oedd yn meddwl ei fod yn datgelu cyfrinach a chafodd JM Davies ei gosbi trwy gael ei orfodi i gerdded yn nhir neb.
Goroesodd y profiad a byw i gyfieithu ei lythyr yn iawn a dangos nad oedd wedi datgelu unrhyw gyfrinachau.
Mae rhan o'r 'amlen werdd' a gariodd y llythyr o'r ffosydd yn 么l i Gymru yn yr arddangosfa.
Ymhlith yr eitemau eraill yno mae cerdyn post gafodd ei roi i William Rhys Jones o Bow Street a fu'n ymladd yn nhrydydd brwydr Ypres ym 1917. Mae'r cerdyn post yn dal i fod ym meddiant Vernon Jones, nai William Rhys Jones.
"Y stori yw, roedd tri o filwyr Almaenig wedi'u hanafu yn go ddrwg ac o'dd fy ewythr wedi dod ar eu traws nhw", meddai Vernon Jones wrth adrodd yr hanes.
"Ac mae un ohonyn nhw yn tynnu cerdyn post allan o'i boced a llun ei wraig arno fe - ac am fod Wncwl William yn gallu siarad tipyn o Almaeneg fe ofynodd iddo fe a 鈥榮grifennai at ei wraig i ddweud ei fod e'n iawn.
鈥淎eth fy ewyrthr wedyn i moyn pensil i ysgrifennu'r cyfeiriad yn yr Almaen. Ond pan ddaeth e n么l roedd y milwr wedi marw ac felly dyma'r llun o'r wraig oedd i fod cael y wybodaeth am ei g诺r."
Mae Vernon yn dweud iddo feddwl yn aml am y teulu yn yr Almaen ac yn teimlo'n anesmwyth fod y llun ganddo fe o hyd.
"Bydden i'n hapus iawn petai hwn yn mynd nol i'r Almaen, i rywle, i amgueddfa efallai sy'n delio gyda hanes y rhyfel, ac efallai gallai rhywun ddweud fod 'hwnna'n perthyn i ni' ac efallai cael y stori o'r diwedd".
Lleoliad: Neuadd Rhydypennau, Bow Street, Aberystwyth, SY24 5BQ.
Llun: Yr amlen werdd a JM Davies drwy garedigrwydd teulu Mr Davies.