Gorsaf Awyr Milton, Sir Benfro: Llongau awyr yn gwylio'r glannau
Roedd llongau awyr yn cadw golwg ar lannau Sir Benfro rhag ymosodiadau tanddwr y gelyn
Gorsaf awyr yn berchen i鈥檙 llynges oedd RNAS Milton, neu RNAS Pembroke fel y'i gelwir weithiau.
Fe sefydlwyd yr orsaf ger Sageston yn Sir Benfro yn 1915, fel cartref ar gyfer rhai o鈥檙 llongau awyr oedd yn chwilio鈥檙 moroedd am longau tanfor yr Almaen. Daeth hyn yn fwy fwy pwysig yn ystod y Rhyfel wrth i longau tanfor yr Almaen nid yn unig fygwth bywydau ond wrth i ymosodiadau ar longau masnach effeithio ar allu Prydain i fewnforio bwyd a deunyddiau crai.
Roedd y llongau awyr yng Nghorsaf Awyr Milton yn dal dau berson, dau fom ac un gwn peiriant, ac roedd 400 o bobl yn gweithio ar y safle.
Yn 1917 fe ddaeth pump o awyrennau ('biplanes') hefyd i RNAS Milton. Fel y llongau awyr roedden nhw鈥檔 cael eu defnyddio i chwilio am longau tanfor y gelyn.
Fe gaewyd gorsaf awyr y llynges yn 1920 ac fe werthwyd yr adeiladau. Ond yn 1938 fe agorodd RAF Carew Cheriton ar yr un safle, gorsaf ar gyfer awyrennau yn ystod yr Ail Rhyfel Byd.
Gwrandewch ar Denzil Griffiths o Gymdeithas Hanes RAF Carew Cheriton ac Edward Davies o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn s么n am yr orsaf awyr yn y clip.
Lleoliad: Safle Gorsaf Awyr Milton, Sir Benfro, SA70 8SX
Llun: Un o longau awyr Gorsaf Awyr Milton gyda chaniat芒d yr Imperial War Museums.