Main content

Clwb Golff Bangor: Helynt yr heddychwr Thomas Rees

Gofynnwyd i Thomas Rees adael y Clwb Golff oherwydd ei wrthwynebiad i'r rhyfel.

Yn 1906 fe ymunodd Thomas Rees â Chlwb Golff Bangor ac yn 1909 fe gafodd ei benodi yn brifathro Coleg Bala-Bangor. Roedd yn ddiwinydd mawr ac yn heddychwr oedd yn gwrthwynebu’r rhyfel.

Ym mis Medi 1914 fe wnaeth llythyr o’i waith ymddangos yn Y Tyst (papur yr Annibynwyr) ac yn Y Brython (papur Cymraeg Lerpwl). Roedd y llythyr yn cyflwyno’i safbwyntiau yn gwrthwynebu’r rhyfel.

Roedd gan sawl un o aelodau hÅ·n y Clwb Golff gysylltiadau milwrol, a nifer ohonynt ddim yn siarad Cymraeg felly fydden nhw ddim wedi medru darllen y llythyr gwreiddiol.

O ganlyniad i’r llythyr hwn, fe wnaeth pwyllgor gweithredol y Clwb Golff gyfarfod a chynnig bod yr Athro Thomas Rees yn ymddiswyddo.

Bu cryn lythyru nôl a mlaen rhwng y Clwb a’r Athro Thomas Rees.

Gwrthododd Thomas Rees ymddiswyddo ac o ganlyniad i hyn gofynodd y Clwb iddo arwyddo llythyr oedd yn datgan ei fod yn edifarhau am sgwennu’r llythyr gwreiddiol, a’i fod yn tynnu ei eiriau yn ôl. Fe wrthododd Thomas Rees wneud hyn.

Fe gynhaliwyd sawl cyfarfod rhwng y Clwb a Thomas Rees, ac ar Ragfyr 29 fe awgrymwyd bod y pwyllgor yn derbyn eglurhad Thomas Rees, a’i fod ef yn cydnabod bod cynnwys ei lythyr yn amwys. Fe dderbyniwyd hyn trwy fwyafrif gan y Pwyllgor, ond bu’n rhaid aros tan y cyfarfod olaf ym mis Ionawr cyn iddyn nhw basio y dylid cyhoeddi’r llythyrau, a dod a’r mater i ben.

Fe wnaeth un aelod ymddiswyddo sef Hugh Corbett Vincent gan nad oedd yn hapus gyda’r canlyniad, ond fe ddychwelodd yn fuan iawn, a daeth yn gapten ar y Clwb yn 1916.

O ran cofnodion y Clwb – does dim cyfeiriad pellach at Thomas Rees.

Mae’r hanes wedi ei gofnodi yn y llyfr ‘Clwb Golff St.Deiniol - Canmlwyddiant 1906 -2006’ a olygwyd gan Iolo Wyn Williams.

Yr awdur Iolo Wyn Williams a'r hanesydd chwaraeon Dr Meilyr Emrys sy'n trafod yr hanes.

Lleoliad: Clwb Golff St Deiniol, Pen y Bryn, Bangor, Gwynedd, LL57 1PX
Llun: Y clwb ar ddechrau'r 1900au drwy garedigrwydd Clwb Golff Bangor.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

4 o funudau