Caeau Chwarae’r Ficerdy, Aberystwyth: Y seren pêl-droed a laddwyd yn y Somme
Yr Athro Dr. Geraint Jenkins, Aberystwyth yn sôn am un o’i arwyr pennaf – Leigh Richmond Roose, y ‘play boy’ o gôl-geidwad a ddechreuodd ei yrfa yn chwarae dros Aberystwyth.
Aeth ymlaen i gael gyrfa ddisglair yn chwarae dros dimoedd Stoke, Everton, Celtic, Sunderland ac Aston Villa ac ennill 24 cap dros ei wlad, gan gynnwys yn erbyn Iwerddon yn Wrecsam yn 1906.
Bu farw ar ddiwedd brwydr y Somme yn 1916 yn 38 oed.
Ymunodd yn wreiddiol gyda'r Corfflu Meddygol yn 1914 ond aeth at y Ffiwsilwyr Brenhinol gan ymladd yn y ffosydd ac enillodd y Fedal Filwrol.
Lleoliad: Caeau Chwarae’r Ficerdy, Prifysgol Aberystwyth SY23 1HA
Lluniau: Leigh Roose mewn gêm yn Stoke yn 1904, o 'Association Football and the Men Who Made It' (1906); Roose yn edrych yn drwsiadus cyn ymuno â'r fyddin yn 1914, trwy garedigrwydd Eileen Jackson; plac coffa i Roose yn y Cae Ras yn Wrecsam.