Main content

Fferm Coed Parc, Llanbed: Anfon Wat i'r fyddin gydag ugain ceffyl

Hanes etifedd fferm a ymunodd 芒鈥檙 fyddin ar orchymyn ei dad a marw ar ddiwedd y rhyfel

Hanes Watkin Davies, mab ifancaf Fferm Coed Parc, Silian ger Llanbedr Pont Steffan.

Ymunodd Watkin, neu Wat fel roedd pawb yn ei adnabod, 芒鈥檙 'Pembroke Yeomanry' yn 1914, a bu鈥檔 ymladd drwy gydol y rhyfel cyn cael ei glwyfo ychydig dyddiau cyn diwedd y rhyfel yn 1918.

Roedd yn hen ewythr i'r Aelod Cynulliad Elin Jones ac mae hi'n dweud yr hanes yn y clip hwn gyda Selwyn Walters o Amgueddfa Llanbed.

Yn 么l yr hanesion teuluol, doedd dim rhaid i Wat fynd i ymladd gan ei fod yr unig fab ar y fferm ac roedd angen gweithwyr ar y tir. Serch hynny, roedd ei dad yn awyddus iawn i鈥檞 anfon, gan ei fod yn tybio bod Wat wedi derbyn gormod o faldod gan ei ddeg chwaer ar y fferm!

Gwrthododd y lluoedd arfog ei gymryd gan fod ei angen ar y tir, ond fe gynigodd ei dad 20 o geffylau gorau Coed Parc fel pridwerth i鈥檙 fyddin i gymryd ei fab.

Ymladdodd yn yr Aifft, Palesteina, Gaza a Jerusalem cyn cael ei anfon i鈥檙 ffosydd yn Ffrainc yn 1918. Cafodd ei glwyfo ar ddiwedd Medi 1918, a鈥檌 gipio a鈥檌 garcharu gan yr Almaenwyr. Bu farw mewn ysbyty i garcharorion bedwar diwrnod wedi鈥檙 cadoediad ar Dachwedd 15fed, 1918.

Lleoliad: Fferm Coed Parc, Silian, Llanbedr Pont Steffan, SA48 8NU
Llun: Watkin Davies yn fachgen bach yng ngh么l ei dad gyda gweddill ei deulu, yn filwr o lyfryn i gofio'r bechgyn lleol fu farw ac ar un o geffylau'r fyddin drwy garedigrwydd Elin Jones ac Amgueddfa Llanbed.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau