Y GLÊR: Cân ysgafn (heb fod dros 20 llinell): Y Cyfweliad
Y GLÊR: Cân ysgafn (heb fod dros 20 llinell): Y Cyfweliad
'Croeso i’r cyfweliad, Iwan. Beth yw eich dyddiad geni yn llawn?'
Sai’n cofio’r union ddyddiad, ond roedd e toc wedi tri yn y pnawn.
'Oes gennych chi brofiad penodol o weithio gyda phlant?'
Saith mlynedd mewn ysgol gynradd. Ro’n i’n un o hanner cant.
'Beth oedd eich cyfrifoldebau pan oeddech chi’n Swyddog Datblygu?'
Gwneud annibendod o’r dillad ar ôl i mam eu plygu.
'Yn ôl eich CV fe fuoch yn ymladd yn Irac.'
Do, es ar goll wrth bacpacio yn Tsieina, a mynd yn grac.
'Mae’n debyg bod gennych ddiddordeb mewn hybu’r economi leol.'
Oes, rwy’n siopa’n yr archfarchnad enfawr bum munud i lawr yr heol.
'Nawr, dwedwch wrthyf, Iwan, beth yw eich gwendid pennaf?'
Rwy’n ei chael yn anodd weithiau creu cwpled sydd yn odli.
'Allwch chi ymhelaethu ar eich swydd yng Ngwlad yr Iâ?'
Na.
Ond hoffwn i ofyn dau gwestiwn. Pa mor hael yw’r buddion?
Ac wedyn yr oriau hyblyg – pa mor hyblyg yn union?
Achos sai’n un i godi’n fore. Rwy’n cymryd awr ginio yn llawn.
Ac ar ôl gwydr neu ddau o rioja, mae angen siesta bob pnawn.
'Wel, mae’n amlwg eich bod yn gymwys, ac mae gennych agwedd ragorol.
Llongyfarchiadau, Iwan, fe’ch penodaf yn fardd proffesiynol.'
Iwan Rhys
9.5