Main content

Chwyth Dy Drwmped gan LlÅ·r Gwyn Lewis

Cerdd gan LlÅ·r Gwyn Lewis yn arbennig i ddathlu Diwrnod Bandiau Pres Radio Cymru.

Chwyth dy drwmped

Chwyth dy drwmped, gyfaill,
chwyth dy drwmped dy hun,
lluchia hen nodau'r llechi
a'u hen hen hollt i ffwrdd, o'r neilltu,
chwytha holl lwch y talpiau glo
i glyw y syndod sy'n y glissando,
gyrra'r cornet i sgrechian, i godi'r to
a ninnau'n codi efo fo.

Anghofia'r llymder a thrymder angladdau,
tro fartsh y brotest yn gawdel o faddau,
byrfyfyria'r nos yn foreau,
rho inni'r naid i'n cario drwy'r nodau.

O! chwyth dy drwmped dy hun, gyfaill,
chwyth dy drwmped,
mynna roi inni dy diwn unig,
a thrwy dy fudydd, gwna i mi fudo
i le ar fy nghyfer lle gallaf anghofio,
lle mae'r bysedd bob amser yn clicio.

Tro'r chwerw heno'n chwarae,
rhwyga'r euogrwydd yn ddau,
rho i mi hyn, i'r nos barhau,
yng ngwlad y mwg a'r jazz a'r ddawns,
lle mae'r gwin ar y byrddau, siawns,
tyrd â dy fwg trwy dy fegin,
chwyth, o! chwyth dy drwmped, gyfaill.

* * *

Ond wedi'r cyfan, rho diwn wahanol,
dos â fi'n ôl i weld y bobol,
a hel dy alaw yn eu canol,
rholia dy rallentando,
atgoffa fi o'r andante eto,
a dewisa'r daith adagio.

Dos â fi'n ôl i'r neuadd les
at frodwaith baneri, at y diffyg pres,
at ddirwest syber y gymuned nes,
o, chwyth dy drwmped,

Dos â fi'n ôl i'r festri oer,
a chrafiad llwch mewn clirio poer,
i'r emyn na roddai ddewis i ddyn
er mwyn anghofio'i dynged ei hun
ond dal i chwythu'i drwmped ei hun
ond bod pawb yn gwneud, a phawb fel un.

Chwyth dy drwmped gyfaill,
chwyth dy drwmped dy hun.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o