Main content

Abertawe: Angladd Gweithwyr Ffatri Arfau

Angladd dwy a gafodd eu lladd mewn ffrwydriad yn ffatri arfau Pen-bre ger Abertawe.

Ar 4 Awst 1917 fe gynhaliwyd angladdau Mildred Owen, 18 oed, a Dorothy Mary Watson, 19 oed. Fe gludwyd eu cyrff ar y trên i’r orsaf yn High Street, Abertawe, cyn cael eu cario i fynwent Dan y Graig.

Roedd y ddwy yn gweithio yn y ffatri arfau ym Mhen-bre ac wedi eu lladd mewn ffrwydriad yno gyda phedwar gweithiwr arall. Lladdwyd y chwech ohonyn nhw ar 31 Gorffennaf 1917, yr un diwrnod ag y bu farw Hedd Wyn a dwsinau o filwyr Cymreig eraill ym Mrwydr Passchendaele.

Roedd torf fawr yn Abertawe i dalu’r gymwynas olaf i’r ddwy, gan gynnwys cannoedd o ferched oedd yn gweithio gyda nhw ym Mhen-bre. Fe gerddodd rhai o’r merched, yn eu gwisgoedd gwaith, gyda’r hersiau i’r fynwent.

Nid merched yn unig oedd yn gweithio ym Mhen-bre a’r ffatrïoedd arfau eraill ym Mhrydain adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Ond wrth i nifer o ddynion ifanc ymuno â’r fyddin fe grëwyd cyfleoedd newydd i ferched yn y byd gwaith.

Yn 1914 roedd dros 200,000 o ferched yn barod yn gweithio yn niwydiannau metel Prydain, ond erbyn 1918 roedd dros 950,000 ohonyn nhw’n yn gweithio mewn ffatrïoedd arfau.

Mae’r hanesydd Catrin Stevens yn esbonio bod perygl cyson o ffrwydriadau yn y ffatrïoedd ac roedd deunyddiau fel TNT a cordite yn gallu effeithio ar y croen, gwallt, ysgyfaint a’r llygaid. Ar y llaw arall roedd gweithio mewn ffatri o’r fath yn cynnig cyflog eithaf da, oriau sefydlog a’r cyfle i gymdeithasu.

Roedd yna dimau pêl-droed, hoci a chorau yn nifer o’r ffatrïoedd ac ym Mhen-bre roedd yna gyngherddau gwaith yn cael eu trefnu.

Ar y gofeb rhyfel yn Abertawe mae enwau 12 o weithwyr fu farw mewn ffatrïoedd arfau gan gynnwys enwau Mildred Owen a Dorothy Mary Watson.

Fe ysgrifennodd Miss V. Chapman, gweithiwr ffatri arfau oedd efallai yn gydweithiwr i’r ddwy, gerdd goffa iddynt a gyhoeddwyd yn y South Wales Daily Post ar 6 Awst 1917:

A loud report, a deafening roar
And two brave lassies met their fate …
… Their memory shall live for aye
And Wales shall honour it, and sing
Tho praise of those who gave their lives
For England’s fighters and their King.

Lleoliad: Stryd Fawr Abertawe, SA1 1NU
Llun o ferched ffatri arfau Pen-bre yn talu’r gymwynas olaf i Mildred Owen a Dorothy Mary Watson drwy ganiatâd Imperial War Museums.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau