Brynsaeson, Sir Gâr: Cerddi Rhyfelgar Merch Ifanc
Cerddi gan Sarah Davies o fferm Brynsaeson ger Pencader yn rhestru'r dynion ifanc o'i hardal oedd yn ymladd yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ysgrifennodd Sarah Davies o Fferm Brynsaeson ger Pencader yn Sir Gâr ddarn o farddoniaeth yn enwi tua 25 o fechgyn lleol a fu’n ymladd yn y Rhyfel Mawr. Mae'r gerdd yn portreadu'r bechgyn fel arwyr ac yn defnyddio geirfa dreisgar i ddisgrifio'r "Kaisar brwnt ei ras".
Roedd Sarah yn ei harddegau pan ysgrifennodd y gerdd ac mae'n sôn am enwau’r ffermydd o amgylch Brynsaeson a'r tai yn y pentref lle roedd y milwyr yn byw, gan greu cofnod cymdeithasol diddorol a phwysig o’r cyfnod.
Mae Anita James yn sôn am y modd y daeth o hyd i’r farddoniaeth ynghanol hen luniau teuluol, ac mae’r Athro E Wyn James o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, yn siarad am arwyddocâd a phwysigrwydd y gerdd yn ei chyd-destun cymdeithasol.
Ceir dyfyniadau o’r gerdd gan Suan John, merch ysgol leol o Bencader.
Lleoliad: Brynsaeson, cartref Sarah Davies ger Pencader yn Sir Gaerfyrddin, SA39 9HP
Gyda diolch i Mrs Anita James, Casgliad y Werin a Mr a Mrs Bracegirdle.
Detholiad o'r gerdd, Bechgyn Bach Pencader:
Cydganwn glodydd mad
I ddewrion maes y gad.
Mae bechgyn bach Pencader
Yn ymladd dros eu gwlad
Bu Johnnie bach yr Ystrad
A’i fynwes fel y dur
Yn ymladd yn y trenches
Yn galed, amser hir.
...
A Tommy Pantygravel
Sydd heddiw dan ei graith
Nôl bod draw yn y trenches
Yn gwneyd gorchestion waith
Fe laddodd Tom o’r Germans
Do, ddegau meddent hwy
Os nôl yr aiff e eto
Fe ladda lawer mwy!
Dau fab Dolbantau hefyd
Sydd yno’n ddewr eu gwedd
A Titus gyda Christmas
Yn fywiog iawn eu cledd
A William James Dolawel
Aeth yntau’n ddewr i mâs
Cael rhoddi ‘pluck’ i wiskers
Y Kaisar brwnt ei ras.
Mae’n bleser imi enwi
Lieutenant Jones Pantglas
Yn bennaeth ar ei gatrawd
Mae ef yn mynd i mâs
Yn llawn o waed y brython
Heb ofni’r shots na’r shells
I wneuthur stroke anfarwol
Draw yn y Dardanells.
Mae Jim Maesybwlch fel gwron
Draw yn y Rhyfel blin
I saethu lawer Germans,
Mae Jim yn eithaf ddyn.
Jack George a Wille Ystrad
Dau filwr dewr a rhydd
Na feier boys Pencader
Os Kaisar garia’r dydd.
...
Mae Jack Nantllech fel gwron
Yn gwneyd ei little bit
Pan wêl y Kaisar Johnnie
Mae e sicr o gael ffit!
...
Mae John Cwmbychan hefyd
Yn wrol gyda’r llu.
Ac yna’n ffraith ei dafod
Mae Harry Castelldu.
O druan bach â’r Kaisar
Cwynfannus fydd ei gân
Pan wêl ef Dai y Felin
A’i ddryll yn dod ymlân.
...
Dau fachgen Daniel CrossInn
A Tommy o Landdu
A William Ffosyfedwen
Sy’n ymladd nawr o’n tu.
A Bertie Broad sydd yno
A Tommy bach yn wir
Hwy ânt i fewn dan ganu
I Berlin cyn bo hir.
Dai Davies, mab y Gwastod
Jack Jacob o Brynbach
A Willie Jones y Bribwll
Sy’n ymladd amser maith
Bydd hôl y frwydyr arno
Hyd fedd, y ddwfn graith.
Wel bendith fydd yn canlyn
Holl wÅ·r y brethyn llwyd
Hyd nes y rhoddant derfyn
I’r Kaisar cas ei nwyd
Ac os y gwnes anghofio
Rhyw wron yn fy nghân
Ond iddo beidio digio
Caeth bennill nes ymlân.
Cydganwn glodydd mad
I ddewrion maes y gad
Mae bechgyn bach Pencader
Yn ymladd dros eu gwlad.