Main content

Telyneg neu Soned: Stwr.

Ei gwasg sy鈥檔 fain; rhy fain i鈥檞 deunaw blwydd,
脗 hithau鈥檔 honni鈥檔 daer ei bod hi鈥檔 llawn.
Mae鈥檙 celwydd erbyn hyn yn dod mor rhwydd,
脗 hithau wedi hen berffeithio鈥檌 dawn.
Y llais bach yn ei meddwl sy鈥檔 cryfhau
Gan fynnu llwgu鈥檌 chorff, er gwaetha鈥檙 boen.
Nid yw鈥檔 distewi, er bod esgyrn brau
Yn bygwth torri tyllau drwy ei chroen.
Mae鈥檙 llais yn cyfri鈥檙 briwsion bach ar ras,
A thyfu鈥檔 farus wna, o fis i fis,
O sibrwd tawel, cudd i sgrechian cras
Gan wthio bys y dafol eto鈥檔 is.
Ei chorff, yn sgerbwd brau, sy鈥檔 ildio鈥檙 tir,
A sgrech y llais a dry鈥檔 dawelwch hir.

Gwawr Ifan
9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

48 eiliad

Daw'r clip hwn o