Cân Ysgafn: Y Cyfaddawd.
Cân Ysgafn: Y Cyfaddawd.
Roedd John a Jini’n gwpl od, a dim yn eu cysylltu,
ond gweddai’r naill i’r llall i’r dim : nhw oedd ‘yin - yang’ byd caru.
Roedd John yn llencyn tal a main, gwybodus a dinesig,
a Jini bach a’i sbecs pot jam yn blwmpen, swnllyd, wledig.
Roedd John yn un am gawod oer, a Jini rai berwedig,
ond wrth gyd-'molchi ( i arbed dŵr), fe gai’r ddau gawod tepid.
Roedd Jini’n un am gysgu’n hwyr, a John cyn cŵn Caer ddeffrai
nes troi cloc Jini ’mlaen ddwy awr, ac oriawr John ’nôl bedair.
‘Am dro’ i’r wraig oedd sbin mewn car; ond ‘awyr iach’ i’w phartner,
a sticio’i ben drwy’r ffenest’ wnâi, â Jini’n gyrru’r Rover.
Ar fatres feddal gysgodd John erioed, ers cael ei eni,
ond dim ond gwely caled wnâi y tro i’w wraig o, Jini.
Ac felly, ers priodi, cysgu’n sownd wna Jini landeg
ar wely caled, gyda John yn chwyrnu ar ei bloneg.
Ar eu mis mêl, rho’dd John ei fryd ar wyliau’n California,
ond Jini bach, bron torri’i bol, am flasu cyrri’n India.
Os am fynd hefo’i gilydd, rhaid oedd c’warfod yn y canol,
Mesurwyd ar y map, a threulio’u mis mêl yn . . . Ffostrasol.
Fe daerai pawb nad oedd hôps mul i briodas John a Jini,
Ond cyfaddawdu wnaeth y tric i Kermit a’i Miss Piggy.
Gwenno Davies
8.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 30/06/2013
-
Trydargerdd: Yr hyn a gyflawnais heddiw.
Hyd: 00:09
-
Englyn ar y pryd: Priodas.
Hyd: 00:13
-
Cerdd Rydd: Digon
Hyd: 00:44
-
Pennill Ymson mewn canolfan alwadau.
Hyd: 00:31