Glenda Jones-Williams
Beti George yn sgwrsio gyda Glenda Jones-Williams. Chat show with Beti George.
Glenda Jones-Williams Is lywydd pobol a diwylliant Gogledd Ewrop ac Asia a’r Môr Tawel gyda Coca Cola yw gwestai Beti George.
Yn wreiddiol o Frynaman fe gafodd gyfnod yn gweithio ym myd y gyfraith ac wedyn cwympo mewn i’r byd corfforaethol ac i fyd adnoddau dynol (Human Resources neu Personnel gynt neu People and Culture fel maen nhw'n cael eu hadnabod yn Coca Cola). Mae wedi gweithio gyda Coca Cola ers tua 18 mlynedd bellach.
Tydi methu credu fod merch sy’n siarad Cymraeg ac yn dod o Frynaman mewn swydd uchel yn y byd corfforaethol. Y cynllun oedd bod yn gyfreithwraig am byth.
Fe gafodd ei 'head huntio' i'r swydd, ac fe gynigiwyd swydd ryngwladol iddi ond wedi ei leoli yn Llundain, ond mi roedd ei mab, Harri newydd ei eni ac roedd hi am iddo gael magwraeth Gymraeg a doedd hi ddim isio symud i Lundain, felly mi ddaru berswadio ei phennaeth yn Atlanta fod posib neud y swydd yn unrhyw le!
Mae’n trafaelio’r byd efo’i gwaith – Awstralia, Ewrop i gyd, Phillipines, Jakarta, Bali, India ac America.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Huw Chiswell
Y Cwm
- Goreuon.
- Sain.
- 1.
-
Ryan Davies And Benny Litchfield Orchestra
Myfanwy
- Ryan At The Rank.
- Black Mountain.
- 11.
-
Eden
Caredig
- Recordiau Côsh.
Darllediad
- Dydd Sul Diwethaf 18:0091Èȱ¬ Radio Cymru
Archif Beti a'i Phobol
Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.
Podlediad
-
Beti a'i Phobol
Sgyrsiau gyda phobl diddorol. Interviews with interesting people