Main content

Alun Thomas yn cyflwyno

Trin a thrafod Cymru a'r byd, gan godi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.

Andrew Misell o elusen Alcohol Change UK a Deri Mc Cluskey sy'n trafod llwyddiant ymgyrch "Ionawr Sych" sy'n annog mwy o bobl i ymwrthod ac alcohol;

Mae'r ddrama "Brian & Maggie" ar Channel 4 yn ailgreu cyfweliad y darlledwr Brian Walden gyda'r Fonesig Margaret Thatcher ym 1989, a Bethan Kilfoil oedd yn ohebydd Seneddol yn San Steffan ar y pryd, sy'n trafod cyfnod a fu'n arwyddocaol yn hanes gyrfa wleidyddol cyn Brif Weinidog Prydain;

Ac wrth i'r seinydd clyfar Alexa ddathlu 25 mlwyddiant, Gruff Prys o Ganolfan technoleg iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, sy'n trafod beth yw'r datblygiadau diweddar gyda'r cynorthwy-ydd digidol Cymraeg, o'r enw Macsen?

7 o ddyddiau ar 么l i wrando

1 awr

Darllediad diwethaf

Iau 30 Ion 2025 13:00