Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar 91Èȱ¬ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Anni LlÅ·n yn cyflwyno

Anni LlÅ·n sydd yn sedd Ffion Dafis ac yn trafod y byd celfyddydol yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, with Anni LlÅ·n sitting in for Ffion Dafis.

Anni LlÅ·n sydd yn gwarchod rhaglen Ffion Dafis heddiw.

Yn y rhaglen hon mae Anni yn cael cwmni’r bardd Martin Huws i sgwrsio am ei gyfrol newydd o farddoniaeth o’r enw ‘Dyn ar Dân’ sydd newydd ei chyhoeddi.

Mae Elinor Gwynn yn ein tywys i arddangosfeydd a digwyddiadau difyr yn Oriel Storiel ym Mangor. tra bod Non Vaughan O'Hagan yn mynd â ni i Oriel Tate yn Llundain i arddangosfa sydd yn dathlu cyfraniad merched fel artistiaid rhwng 1520 a 1920.

Mae Cyfarwyddwr Artistig Theatr na nOg, Geinor Styles wedi bod yn gweld cynhyrchiad diweddaraf Y Cwmni, Urdd Gobaith Cymru, ac mae Llŷr Evans a Siôn Emyr yn galw heibio’r stiwdio i drafod sioe glybiau newydd sbon Theatr Bara Caws, 'Mwrdwr ar y Maes', sydd hefyd ar daith ar hyn o bryd.

Cynhyrchu dillad creadigol o wlân mae cwmni MeiSian yn Mhen Llŷn – cawn hanes y cwmni a’u cynnyrch.

Ac wrth gwrs, mae digon o gerddoriaeth sydd yn adlewyrchu'r wythnos yn gelfyddydol.

1 awr, 58 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 21 Gorff 2024 14:00

Darllediad

  • Sul 21 Gorff 2024 14:00