23/06/2024
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Yn y rhaglen hon mae Ffion yn cael cwmni un o gyflwynwyr Radio Cymru sef Georgia Ruth â hithau yn ystod yr wythnos newydd ryddhau ei halbwm newydd a chyhoeddi nofel, a hynny ar yr un diwrnod.
Trafod gwobrau ‘Into Film 2024’ mae Non Stevens gyda 5 enwebiad mewn 5 categori i Gymru, tra bod Bardd Plant Cymru, Nia Morais yn apelio ar ferched i greu cerddi gwreiddiol ar gyfer blodeugerdd newydd sbon mae hi'n olygu.
Adolygu sioe theatr Cwmni Arad Goch, ’Cerdyn Post o Wlad y Rwla’ mae Manon Wyn Williams.
Mae sylw hefyd i ‘Ŵyl Undod’ cwmni Hinjix, a’r wythnos nesaf mae Ysgol Gyfun Gŵyr yn perfformio drama Gymraeg, a hynny am y tro cyntaf yn y National Theatre yn Llundain – mae'r cast yn sgwrsio gyda Ffion yn ogystal â’r awduron Leo Drayton ac Elgan Rhys.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Darllediad
- Sul 23 Meh 2024 14:0091Èȱ¬ Radio Cymru