Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar 91Èȱ¬ iPlayer Radio ar hyn o bryd

04/02/2024

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt:

Mae Ffion yn ymweld ag ystafell ymarfer cynhyrchiad diweddara National Theatre Wales, 'Feral Monster', ac yn sgwrsio gyda’r cast, y cyfarwyddwr a’r awdur;

Mae Cwmni Theatr Bara Caws ar daith hefyd, a Betsan Llwyd a Mared Llywelyn sydd yn sgwrsio am gynhyrchiad Taigh/Tŷ/Teach y cwmni, a hynny ar y cyd â Theatre Gu Leòr o’r Alban a Fishamble yn Iwerddon;

Yn ogystal â hyn mae Ffion yn cael cwmni Dan Bowen sydd yn trefnu nosweithiau Cymraeg yn y Queer Emporium yng Nghaerdydd, ac mae'r artist celfyddydol amryddawn Talulah Thomas yn galw heibio am sgwrs;

Rhoi sylw i ddrama newydd sydd ymlaen yn y West End ar hyn o bryd, ‘The Motive and the Cue’, mae Sioned Wiliam, tra bod Einir Sion, Ysgogydd Iaith Cyngor Celfyddydau Cymru, yn trafod prosiect celfyddydol Llais y Lle ar gyfer 2024, a'r cyfleoedd i artistiaid.

Digon o straeon difyr o fyd y celfyddydau yn ogystal â cherddoriaeth sydd yn adlewyrchu digwyddiadau celfyddydol yr wythnos.

1 awr, 58 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 4 Chwef 2024 14:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Pedair

    Cân y Sbif (yn fyw yn Celtic Connections)

  • ·¡Ã¤»å²â³Ù³ó

    Breuddwyd

    • Recordiau UDISHIDO.
  • Lo-fi Jones

    Weithiau Mae'n Anodd

    • Llanast yn y Llofft EP.
  • Parisa Fouladi

    Cysgod yn y Golau

  • Huw Chiswell

    Cân Joe

    • Neges Dawel.
    • Sain.
    • 5.
  • Talulah

    Byth Yn Blino

    • I Ka Ching.

Darllediad

  • Sul 4 Chwef 2024 14:00