Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 91热爆 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Johnny Tudor yn 60

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.

Yn y rhaglen heddiw mae Ffion yn ymweld ag arddangosfa yr artist dur Angharard Pearce Jones, a hynny yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, lle mae ei harddangosfa ddiweddaraf 'Impact/Ardrawiad' ymlaen ar hyn o bryd - arddangosfa sydd wedi ei sbarduno gan bleidlais Brexit.

Mae Ffion hefyd yn teithio i gwrdd 芒 chriw Opra Cymru wrth iddyn nhw baratoi i fynd ar daith yr wythnos nesaf a hynny gydag opera newydd o'r enw 'Peth bach 'di Cawr' gan Gareth Glyn.

Yr wythnos yma fe gyhoeddodd Cyngor Celfyddydau Cymru eu hadolygiad buddsoddi ar gyfer 2023 - Arwel Gruffydd sydd yn bwrw golwg ar oblygiadau'r adroddiad yma i'r byd celfyddydol yng Nghymru.

Mae Lily Beau yn cael cwmni yr artist llwyfan amryddawn Johnny Tudor wrth iddo baratoi tuag at noson arbennig i nodi 60 mlynedd fel perfformiwr, ac mae Theatr Bara Caws hefyd yn paratoi tuag at lwyfannu addasiad Angharad Tomos o'r ddrama Blackthorn gan Charley Miles, sef Draenen Ddu.

Ac yna i gloi, mae Beryl Griffiths yn edrach ymlaen tuag at un o eisteddfodau hynaf Cymru - Eisteddfod Talaith a Chadair Powys Edeyrnion a Phenllyn sydd yn cael ei chynnal yn Y Bala eleni.

Codau Amser:

00:05:15 Opra Cymru
00:18:40 Gareth Glyn
00:41:30 Arwel Gruffydd
01:04:03 Angharad Pearce Jones
01:22:45 Johnny Tudor
01:37:06 Bara Caws, Draenen Ddu
01:52:40 Beryl Griffiths - Eisteddfod Talaith a Chadair Powys Edeyrnion a Phenllyn

1 awr, 58 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 1 Hyd 2023 14:00

Darllediad

  • Sul 1 Hyd 2023 14:00