E-lyfr 'Un Nos Ola Leuad' a'r ddrama 'Dinas'
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Yn y rhaglen yma mae Ffion yn cael cwmni'r cerddorion amryddawn Angharad Jenkins a Patrick Rimes ar drothwy lansio ei halbwm newydd 'Amrwd', tra bod John Ogwen a Maureen Rhys yn sgwrsio am gynhyrchu e-lyfr nofel Caradog Prichard, 'Un Nos Ola Leuad', sydd hefyd yn cael ei lawnsio yn Eisteddfod Ll欧n ac Eifionydd yr wythnos nesaf.
Mae Ffion yn ymweld ag oriel 'Lle Art Carys Bryn', yn Y Ff么r, ger Chwilog, ac yn cwrdd ag artist ifanc o'r ardal, Iwan Lloyd Roberts yn ogystal ag ymweliad 芒 Theatr Clwyd wrth i'r actores Leah Gaffey baratoi tuag at berfformio addasiad Branwen Davies o'r ddrama 'Fleabag' yn ystod yr wythnosau nesaf.
Ac mae cwmni Theatr Bara Caws hwythau yn brysur hefyd yn paratoi tuag eu cynhyrchiad o ddrama gan Wil Sam ac Emyr Humphreys - 'Dinas' , a hynny yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.
Ac yn ogystal 芒'r sgyrsiau difyr yma mae digon o gerddoriaeth newydd yn eich disgwyl hefyd!
Codau Amser
00:07:00 Cast Theatr Bara Caws
00:26:56 Iwan Lloyd Roberts yn Lle Art Carys Bryn
00:41:34 Llyfr y Flwyddyn gyda Bethan Mair a Siwan Rosser
01:00:08 CD Newydd Angharad Jenkins a Patrick Rimes
01:22:39 John Ogwen, Maureen Rhys a Mari Prichard yn trafod e-lyfr 'Un Nos Ola Leuad'
01:37:25 'Fleabag' gyda Leah Gaffey, Sara Lloyd a Branwen Davies
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Gai Toms & Pen Ll欧n
Gai Toms - Pen Ll欧n
- Baiaia.
-
Meinir Gwilym
Goriad
- GWYNFRYN CYMUNEDOL.
-
Angharad Jenkins, Patrick Rimes & Gyrru yr Ychen
Gyrru yr Ychen - Angharad Jenkins a Patrick Rimes
-
Angharad Jenkins, Patrick Rimes & Nant y Mynydd
Nant y Mynydd - Angharad Jenkins a Patrick Rimes
Darllediad
- Sul 30 Gorff 2023 14:0091热爆 Radio Cymru 2 & 91热爆 Radio Cymru