Llyfr Y Flwyddyn, Shirley Valentine a Pegi Talfryn
Beirniaid Llyfr y Flwyddyn 2022, ymarferion Shirley Valentine, llenyddiaeth i ddysgwyr a'r Clwb Darllen.
Welsh Book of the Year, Shirley Valentine, literature for Welsh learners.
Mae deng mlynedd wedi pasio ers i "Y Stor茂wr" ennill Llyfr y Flwyddyn ac mae'r awdur Jon Gower yn ymuno efo Catrin Beard a'r darllenwyr Dorian Morgan a Miriam Elin Jones i drafod y gyfrol yn y Clwb Darllen.
Shelley Rees sy'n serennu mewn cynhyrchiad newydd o addasiad Manon Eames o'r clasur "Shirley Valentine", ac mae Nia'n ymweld efo'r stafell ymarfer er mwyn clywed am yr her o bortreadu cymeriad mor eiconig.
Mae G诺yl Amdani yn dathlu llenyddiaeth Gymraeg i ddysgwyr, ac mae Pegi Talfryn yn sgwrsio am baratoi deunydd ar gyfer darllenwyr newydd. A gan edrych ymlaen at gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2022, fydd i'w chlywed ar Radio Cymru ym mis Gorffennaf, mae Branwen Llewellyn o Llenyddiaeth Cymru yn datgelu pwy yw'r beirniaid eleni.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Nesaf
Darllediad
- Llun 28 Chwef 2022 21:0091热爆 Radio Cymru