Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar 91Èȱ¬ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Arthur - arwr Cymreig?

Mae Dei'n trafod y ffigwr chwedlonol Arthur ac yn cofio'r diweddar Neli Williams, Boduan. Dei and guests discuss Wales, its people and its culture.

Mae Dei Tomos yn cael cwmni LlÅ·r Gwyn Lewis i drafod un o arwyr Cymru, sef Arthur.

Beth yw hanes capel Y Tabernacl, Hendy Gwyn ar Daf? Denley Owen o Lanymddyfri sy'n sgwrsio am ei lyfryn ynglŷn â'r capel.

Cyfrannodd Neli Williams, Boduan, lawer i'r byd eisteddfodol yng Nghymru fel beirniad, adroddwraig ac fel hyfforddwr. Mae'n cael ei chofio gan Rhian Parry, Siân Mair a gan ei phlant Bethan Gwilym a Gareth Neigwl Williams.

Ac i gloi, mae Myrddin ap Dafydd yn sgwrsio am ei gyfrol ddiweddara' o farddoniaeth, Pentre’ Du, Pentre’ Gwyn.

1 awr, 28 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 15 Medi 2019 17:30

Darllediad

  • Sul 15 Medi 2019 17:30

Podlediad