Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 91热爆 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Cyfnod y Rhyfel Mawr (Fersiwn Awr)

Fersiwn fyrrach o raglen gyda Dei a'i westeion yn trafod cyfnod y Rhyfel Mawr. A shortened edition of Dei's Sunday evening programme, focusing on the period of the Great War.

Fersiwn fyrrach o raglen gyda Dei a'i westeion yn trafod cyfnod y Rhyfel Mawr.

Mae Bleddyn Owen Huws yn awdur cyfrol am brofiadau T. H. Parry-Williams fel gwrthwynebydd cydwybodol, yn cael ei erlid oherwydd ei ddaliadau personol. Beth oedd effaith hynny ar ei fywyd a'i yrfa, wedi i'r gwrthdaro ddod i ben?

Mae Dei hefyd yn cael cwmni Harri Parri, i drafod ei gyfrol yntau am hanes John Puleston Jones. Dyma ddyn dawnus, deallus a huawdl, a oedd yn cael ei adnabod fel Y Pregethwr Dall. Gan ei fod yn heddychwr, roedd yn dipyn o ddraenen yn ystlys John Williams, Brynsiencyn, yng nghyfnod y Rhyfel Mawr.

Trafodaeth yn ogystal gyda Lowri Ifor, ar hanes merched a'u hymgais i sicrhau heddwch.

55 o funudau

Darllediad diwethaf

Maw 13 Tach 2018 18:00

Darllediad

  • Maw 13 Tach 2018 18:00

Podlediad