Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 91热爆 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Diogelwch Gwyliau

Yn dilyn marwolaeth yn Sioe Frenhinol Cymru 2017, pa mor ddiogel yw ein gwyliau a sioeau? Following a death at the 2017 Royal Welsh Show, how safe are summer shows and festivals?

Tair mil ydi poblogaeth Llanfair ym Muallt, ond mae tri chan mil yn ymweld 芒'r dref yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru. Rhaid i'r trefnwyr sichrau eu bod yn ddiogel yn ystod y dydd a chyda'r nos, pan mae'r strydoedd yn debycach i Benidorm nac i Bowys.

Mae'r un patrwm i'w weld yn nifer o'r 1000 o wyliau sy'n cael eu cynnal ar draws Prydain erbyn hyn, a'r un yw'r her i gadw pawb yn ddiogel.

Er bod y mwyafrif yn mynd heibio heb unrhyw drafferthion difrifol, bu farw dyn ifanc yn Sioe 2017, a bu farw dau o bobl yng ng诺yl Mutiny 2018.

Manylu sy'n ymweld 芒 rhai o ddigwyddiadau mawr yr haf fel yr Eisteddfod Genedlaethol, G诺yl Rhif 6, Parklife a'r Sioe Frenhinol.

Mae dau gyfrannwr yn cadw dyddiadur - un wrth deithio ar draws Prydain yn gweithio yn rhai o'r gwyliau mwyaf, a'r llall wrth fwynhau'r Eisteddfod Genedlaethol a Maes B. Ar 么l cael ei synnu wrth weld cymaint o gyffuriau ar safle Maes B 2017 ar Ynys M么n, beth yw ei farn ar y brifwyl yn y brifddinas yn 2018?

Mae'r rhaglen hefyd yn ymweld 芒 threfnwyr yr Eisteddfod a'r Sioe, i weld y gwaith paratoi sy'n digwydd cyn i'r ymwelwyr gyrraedd, a'r problemau sy'n rhaid eu datrys.

Hefyd, yng Ng诺yl Rhif 6 ym Mhortmeirion, yr heddlu sy'n dangos eu rhan nhw mewn cadw trefn.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 16 Medi 2018 16:00

Darllediadau

  • Iau 13 Medi 2018 12:30
  • Sul 16 Medi 2018 16:00

Podlediad Manylu

Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.

Podlediad