Main content
Cofiwn: T. Gwynn Jones
Rhaglen o'r archif ddigidol, sef Cofiwn o 1966, gydag Eddie Ladd yn ei thrafod yn ei dull arbennig ei hun. Eddie Ladd introduces a programme from the digital archive.
Rhaglen o'r archif ddigidol, gydag Eddie Ladd yn ei thrafod yn ei dull arbennig ei hun.
Y bardd a'r ysgolhaig T. Gwynn Jones sydd dan sylw yn y rhifyn hwn o Cofiwn o 1966, sef mab Gwyndy Uchaf, Betws yn Rhos, Sir Ddinbych.
Bu'n gweithio gyda'r Faner a sawl papur newydd cyn mynd i weithio i'r Llyfrgell Genedlaethol, ac yna darlithio yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1902, a ffaith fach ddiddorol - iddo fe mae'r diolch am fathu'r enw Nia am y tro cyntaf.
Darllediad diwethaf
Llun 20 Awst 2018
18:00
91热爆 Radio Cymru & 91热爆 Radio Cymru 2