Teulu Mostyn, Sir y Fflint (Fersiwn Awr)
Fersiwn fyrrach o ymweliad ag arddangosfa o rai o drysorau teulu Mostyn, Sir y Fflint. A shortened edition of a visit to an exhibition of some of the Mostyn treasures.
Wrth i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth arddangos rhai o drysorau pwysicaf teulu Mostyn, Sir y Fflint, mae Dei yn dilyn hynt a helynt y teulu.
Ymhlith yr eitemau mae Cronicl Elis Gruffudd, sydd ar restr UNESCO o ddogfennau o bwys, a gwaith y naturiaethwr Thomas Pennant a oedd yn byw yn Downing ger Mostyn.
Eitem eraill o arwyddoc芒d hanesyddol yw comisiwn gwreiddiol 1567, dan awdurdod y Frenhines Elizabeth I, a gyfarwyddodd William Mostyn i drefnu eisteddfod yng Nghaerwys.
Mae'r delyn arian yno hefyd, sef y wobr eisteddfodol gynharaf sydd wedi goroesi.
Yn ogystal ag ymweld 芒'r arddangosfa, mae Dei yn cael cwmni'r arbenigwyr hynny sydd wedi ymchwilio ac ymddiddori yn hanes y teulu.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Maw 24 Gorff 2018 18:0091热爆 Radio Cymru & 91热爆 Radio Cymru 2
Podlediad
-
Dei Tomos
Sgyrsiau am Gymru, ei phobl a'i diwylliant.