Marina Pwllheli
Wrth i nifer y defnyddwyr a'r elw ostwng, mae 'na alw am breifateiddio Hafan Pwllheli. With users and profit going down, there are calls for Hafan Pwllheli to be privatised.
Ers i Gyngor Gwynedd ddod yn gyfrifol am Hafan Pwllheli ddeng mlynedd yn 么l, mae nifer y defnyddwyr a'r elw sy'n dod o'r busnes wedi gostwng, gyda'r safle'n llai na thri chwarter llawn eleni.
Yr economi sydd ar fai, yn 么l yr awdurdod, wrth i lai o bobl brynu cychod ac oedran defnyddwyr godi. Maen nhw hefyd yn beio cymhlethdodau carthu, sy'n gostus ac yn ei gwneud yn anodd i berchnogion cychod fynd a dod.
Gwadu hynny mae awdurdodau eraill Cymru, a chwmn茂au preifat sy'n gyfrifol am farinas ar draws yr arfodir. Mae gan nifer ohonyn nhw restrau aros am le i angori, ac mae cynlluniau carthu cyson yn cadw perchnogion cychod yn hapus.
Yn y rhaglen hon, mae rhai sydd 芒 chychod yn Hafan Pwllheli'n galw ar Gyngor Gwynedd i ystyried ei werthu, neu godi rhent ar gwmni preifat dros gyfnod hir; felly hefyd y Cynghorydd Meic Parry o Gyngor Tref Pwllheli. Fo oedd yn gyfrifol am sefydlu'r marina yn y 90au, ac mae'n rhybuddio y bydd angen cwmni gyda llawer iawn o arian i godi'r lle yn 么l ar ei draed.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Iau 21 Meh 2018 12:3091热爆 Radio Cymru & 91热爆 Radio Cymru 2
- Sul 24 Meh 2018 16:0091热爆 Radio Cymru & 91热爆 Radio Cymru 2
Podlediad Manylu
Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.
Podlediad
-
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.