Fy Newis I a Hela Gair
Dwy raglen o archif ddigidol 91热爆 Cymru, sef Fy Newis I o 1978 a Hela Gair o 1975. Eddie Ladd sy'n cyflwyno. Eddie Ladd introduces two programmes from the Cymru digital archive.
Ar 么l i ddegau o filoedd o dapiau archif 91热爆 Cymru gael eu digideiddio, mae Eddie Ladd yn manteisio ar y cyfle i chwarae rhaglenni sydd heb weld golau dydd ers degawdau - gwneud yr hen yn newydd, fel petae.
Mae'n dechrau gyda dwy raglen, sef Fy Newis I a Hela Gair.
Y bardd a'r darlledwr Harri Gwynn yw gwrthrych y ddwy. Wedi'i eni yn Llundain, symudodd i Benrhyndeudraeth. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sir y Bermo a Choleg y Brifysgol, Bangor. Bu'n gweithio yn Llundain am ychydig, cyn dychwelyd yn 么l i Gymru. Bu'n briod 芒 Dr. Eirwen Gwynn, a chafodd y ddau fab, Dr. Iolo ap Gwynn. Roedd yn un o ohebwyr cyntaf y rhaglen Heddiw, a dechreuodd weithio ar y rhaglen yn 1962. Bu'n gweithio hefyd fel cynhyrchydd radio ym Mangor.
Yn Fy Newis I, Dyfnallt Morgan sy'n holi Harri Gwynn, ac yn cael sgwrs am ei fagwraeth a'i farddoniaeth. Cafodd y rhaglen ei darlledu'n wreiddiol yn 1978.
Yn Hela Gair o 1975, mae Harri Gwynn yn mynd ar 么l ystyr geiriau a dywediadau yng nghwmni'r Athro Bedwyr Lewis Jones, Jane Edwards a Gwynedd Pierce.