Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 91热爆 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Brexit a'r Gymraeg

Aled ap Dafydd a'i westeion yn trafod Brexit a'r Gymraeg. Political discussion with Aled ap Dafydd and guests looking at Brexit and the Welsh language.

Ar ddiwedd wythnos pan gafodd y Mesur Diddymu ei gyhoeddi er mwyn trosglwyddo deddfau Ewropeaidd yn 么l i'r Deyrnas Unedig wedi Brexit, mae Aled ap Dafydd a'i westeion yn trafod y dadleuon diweddaraf. A oes ffrae gyfansoddiadol ar y gorwel?

Sut mae cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg? Mae gan Lywodraeth Cymru darged i gyrraedd miliwn erbyn canol y ganrif, gan roi pwyslais ar geisio ehangu addysg Gymraeg. Beth yw barn y panel?

Ac wrth i Alex Salmond fentro i fyd comedi gyda sioe yng Nghaeredin, dyma holi a yw mynd o wleidyddiaeth i adloniant yn gam naturiol ai peidio.

Sian James, Guto Llewelyn a'r Athro Gwynedd Parry sy'n ymuno ag Aled.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 14 Gorff 2017 12:00

Darllediad

  • Gwen 14 Gorff 2017 12:00

Podlediad