Hunanladdiadau Dynion Ifanc
Ymchwiliad i gynnydd yn hunanladdiadau dynion ifanc a thorcalon teuluoedd yng Nghymru. An investigation into the increase in young men's suicides in Wales.
Yn 么l y ffigyrau diweddaraf, fe wnaeth 274 o ddynion ladd eu hunain yn 2015 - cyfartaledd o dros bum marwolaeth yr wythnos, a chynnydd o 27% o gymharu 芒'r flwyddyn flaenorol.
Mae'r rhifyn hwn o Manylu'n clywed am dorcalon rhai sydd wedi colli anwyliaid, gan gynnwys Amanda Jones o Lansawel yn Sir Gaerfyrddin. Fe wnaeth ei brawd Dylan, a oedd yn gyn-filwr, ladd ei hun ym mis Gorffennaf 2015. Yn 么l ei chwaer, roedd profiadau ei brawd mewn gwledydd fel Irac ac Affganistan wedi gadael eu marc arno. Wedi sawl blwyddyn o gael hunllefau, roedd wedi ceisio cael cymorth ar gyfer PTSD - Post-traumatic stress disorder - cyflwr eithaf cyffredin gan gyn-filwyr, ond fe laddodd ei hun wrth aros am apwyntiad meddygol pellach. Roedd yn 37 oed, ac yn dad i efeilliaid 8 oed. Mae ei chwaer yn meddwl y gallai ei fywyd fod wedi ei arbed pe bai wedi cael triniaeth arbenigol yn gynt.
Mae Manylu'n gofyn a oes digon o gymorth ar gael i ddynion sydd 芒 phroblemau iechyd meddwl.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Clip
-
Effaith hunanladdiad ar y teulu
Hyd: 00:22
Darllediadau
- Iau 16 Chwef 2017 12:3091热爆 Radio Cymru
- Sul 19 Chwef 2017 16:0091热爆 Radio Cymru
Podlediad Manylu
Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.
Podlediad
-
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.