Huw Ifan, Rhaglen 2
Ail ran sgwrs Gari gyda Huw Ifan o Fanc Cenedlaethol Qatar yn Doha. The second part of Gari's chat with Huw Ifan of Qatar National Bank in Doha.
Ail ran sgwrs Gari gyda Huw Ifan o Aberystwyth sy'n gyfrifol am adran risg Banc Cenedlaethol Qatar yn Doha.
Ar 么l treulio rhan gynta'r sgwrs yn trafod dyddiau cynnar gyrfa Huw, a sut yr aeth o i weithio yn Doha'n y lle cyntaf, mae'r sylw'n troi yn y rhaglen hon at Qatar y wlad. Mae'n gyfnod cyffrous wedi penderfyniad corff p锚l-droed FIFA i gynnal cystadleuaeth Cwpan y Byd yn Qatar yn 2022. Roedd yn gyhoeddiad dadleuol ar y pryd, ac mae'n dal yn ddadleuol hyd heddiw, ond mae Huw yn s么n wrth Gari am yr holl drawsnewidiadau sy'n digwydd fel rhan o'r paratoadau. Mae sawl datblygiad ar y gweill, gan gynnwys dinas newydd sbon o'r enw Lusail.
Un o'r gobeithion yn Qatar wrth lwyfannu Cwpan y Byd ydi y bydd y bwlch rhwng y Byd Arabaidd a'r Gorllewin yn cau, ac mae Huw yn trafod y bwlch hwnnw. Er bod y wlad wedi gweld sawl newid yn y blynyddoedd diwethaf, mae'n dal yn ceisio dygymod 芒 chael pobl fel yntau yn byw yno, ac yn lle ceidwadol iawn o gymharu 芒 gwledydd erail fel Dubai a Bahrain. Ar y llaw arall, mae Huw yn ymfalch茂o'n y ffaith fod ei blant yn eangfrydig, ac mae'n ffyddiog na fyddai'r meibion yn poeni'n ormodol am symud i wlad arall.
Mae dychwelyd i Gymru'n bosibilrwydd, ond gyda swydd newydd mae'n ymddangos mai yn Doha y bydd Huw a'i deulu am beth amser eto.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Darllediad
- Llun 19 Rhag 2016 12:0091热爆 Radio Cymru
Podlediad Rhaglen Gari Wyn
Gari Wyn a'i olwg unigryw ar fyd busnes, mentergarwch a Chymreictod.
Podlediad
-
Gari Wyn
Golwg ar fyd busnes, mentergarwch a Chymreictod.