Syria ac Ewthanasia
Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod Syria ac ewthanasia. Vaughan Roderick and guests discuss Syria and euthanasia.
Wedi wythnos o benawdau difrifol iawn, y sefyllfa druenus yn Syria sy'n cael prif sylw Vaughan Roderick a'i westeion. Mae blynyddoedd wedi mynd heibio ers dechrau rhyfel cartref y wlad, ond does neb yn barod i ymyrryd. Mewn datganiad yn Nh欧'r Cyffredin ddechrau'r wythnos, dywedodd y cyn-ganghellor George Osborne y dylai aelodau seneddol ysgwyddo peth o'r cyfrifoldeb am yr erchyllterau, ynghyd 芒 gwleidyddion yng ngwledydd eraill y Gorllewin. Ond beth, mewn gwirionedd, y gellid fod wedi'i wneud?
Ychydig fisoedd ar 么l ennill dwy fedal yn y Gemau Paralympaidd yn Rio, mae Marieke Vervoort o Wlad Belg wedi ymddeol ac yn ystyried pryd i ddod 芒'i bywyd i ben. Mae ewthanasia'n gyfreithlon yng Ngwlad Belg, ac mae'n dweud fod arwyddo'r papurau wedi bod o gymorth mawr iddi. O glywed ei stori, a yw'r amser wedi dod i edrych eto ar gyfreithloni ewthanasia yng Nghymru a Lloegr? Neu a gafodd y penderfyniad cywir ei wneud yn San Steffan ychydig flynyddoedd yn 么l?
Ac i gloi rhaglen olaf 2016, mae 'na gyfle i edrych ymlaen at y Nadolig wrth i'r panelwyr roi blas ar Nadolig eu plentyndod.
Catrin Haf Jones, Dai Lloyd AC a Cai Wilshaw sy'n ymuno 芒 Vaughan Roderick.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Gwen 16 Rhag 2016 12:0091热爆 Radio Cymru
Podlediad
-
Gwleidydda
Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos.