Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 91热爆 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Treisio

Profiadau dyn a gafodd ei gyhuddo ar gam o dreisio, a dynes a gafodd ei threisio'n 14 oed. A man falsely accused of rape and a woman raped aged 14 talk about their experiences.

Ar 么l i'r p锚l-droediwr Ched Evans gael ei ddyfarnu'n ddieuog o dreisio dynes ger Y Rhyl, mae nifer o gwestiynau wedi'u gofyn am sut mae'r gyfraith a chymdeithas yn delio 芒 chyhuddiadau o'r fath.

Mae'r dadlau chwyrn yn y wasg a'r cyfryngau cymdeithasol wedi cynnwys sylwadau am yr hawl i gael aros yn ddi-enw mewn achosion o dreisio, y penderfyniad yn yr achos hwn i adael i'r llys glywed tystiolaeth am fywyd rhywiol y ferch, a'r ofn y bydd llai o ddioddefwyr yn barod i ddwyn achos yn y dyfodol ar 么l gweld yr ymateb cyhoeddus i achos Ched Evans.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys dwy stori bersonol iawn yn ymwneud 芒 threisio, ond o ddau begwn gwahanol.

Dyn o ogledd Cymru sy'n siarad am y tro cyntaf am gael ei gyhuddo ar gam o dreisio merch flynyddoedd ynghynt. Pan ddaeth plismyn i'w gartref i ofyn cwestiynau, roedd yn meddwl mai j么c oedd y cyfan. Aeth yr achos i'r llys, ond daeth i ben wedi dim ond deuddydd ar 么l i'r barnwr ddweud nad oedd digon o dystiolaeth.

Mae Llinos Dafydd o Landysul yn siarad am gael ei threisio yng ngorllewin Cymru pan oedd ond yn 14 oed. Mae'r profiad yn effeithio arni ugain mlynedd yn ddiweddarach, a dim ond rwan mae'n teimlo'n ddigon cryf i siarad amdano. Mae'n poeni fod yr ymateb i achos Ched Evans yn mynd i wneud i ferched feddwl dwywaith cyn mynd at yr awdurdodau.

Mae'r rhaglen hefyd yn clywed barn yr Arglwydd Elystan-Morgan fel cyn-farnwr, bargfyreithiwr a gwleidydd.

Cyflwynydd: Anna-Marie Robinson.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 20 Tach 2016 16:00

Podlediad Manylu

Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.

Podlediad