Gwasg Gomer, Rhan 2
Yn ei ail raglen am Wasg Gomer, mae Gari a'i westeion yn canolbwyntio ar y presennol a'r dyfodol. This second programme on Gomer Press focuses on the present and the future.
Ar 么l cael darlun cyflawn yn y rhaglen gyntaf o esblygiad a hanes Gwasg Gomer, dyma ganolbwyntio yn yr ail ar y presennol a'r dyfodol.
Roedd 2004 yn drobwynt wrth i'r cwmni symud o nifer o adeiladau i un pwrpasol ar gyrion Llandysul sydd bellach yn dal oddeutu 800,000 o lyfrau. Roedd yn rhaid buddsoddi mewn peiriannau newydd, ac mae'r buddsoddiad hwnnw'n parhau flwyddyn ar 么l blwyddyn yn sg卯l yr holl ddatblygiadau technolegol cyson.
Yn ogystal 芒 sgwrsio gyda Jonathan Lewis, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasg Gomer, mae Gari'n cael cwmni Eirian Davies hefyd. Fel Cyfarwyddwyr Cyllid, mae'n s么n am yr her o gynnig gwerth am arian i'r prynwr yn ogystal 芒 sicrhau nad ydyn nhw fel cwmni ar eu colled.
Sioned Lleiniau sy'n gyfrifol am lyfrau plant Gwasg Gomer, ac un o'r sialensiau iddi hi ydi delio 芒'r ffaith fod proses greadigol yn medru bod yn anwadal iawn.
Dau o hoelion wyth y gweithdy ydi Iona Hopkins a Vince Lloyd. Oni bai amdanyn nhw a sawl un arall o'r hanner cant o staff, fyddai cyhoeddiadau Gwasg Gomer ddim yn barod i gael eu mwynhau gan ddarllenwyr yng Nghymru a thu hwnt.
Ar ddiwedd y sgwrs, mae Jonathan Lewis yn cydnabod iddo boeni rhywfaint wrth i lyfrau electronig ddechrau dod yn boblogaidd, ond mae bellach yn ffyddiog ynglyn 芒'r dyfodol ac yn edrych ymlaen at y blynyddoedd nesaf yn hanes cwmni ei deulu.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Llun 7 Tach 2016 12:0091热爆 Radio Cymru
Podlediad Rhaglen Gari Wyn
Gari Wyn a'i olwg unigryw ar fyd busnes, mentergarwch a Chymreictod.
Podlediad
-
Gari Wyn
Golwg ar fyd busnes, mentergarwch a Chymreictod.