Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 91热爆 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Mamolaeth - Disgwyl Penderfyniad

Nia Thomas sy'n manylu ar gynlluniau i newid gwasanaethau mamolaeth yn ysbytai cyffredinol y gogledd. Nia Thomas examines plans to downgrade maternity services in the north.

Wrth i fwrdd iechyd y gogledd ystyried newidiadau dros dro i wasanaethau mamolaeth gogledd Cymru mae 15 o gyn ddoctoriaid Ysbyty Gwynedd Bangor yn galw am gadw tair uned gydag ymgynghorwyr - a pheidio ag is-raddio unrhyw ysbyty. Yn y ddogfen ymgynghorol mae'r Bwrdd yn ffafrio is-raddio Glan Clwyd a rhoi bydwragedd yn hytrach na meddygon i arwain yr uned honno gan gadw ymgynghorwyr yn Ysbyty Gwynedd a Maelor, Wrecsam.
Mae'r Bwrdd yn rhybuddio fod cadw tair uned yn anghynaladwy oherwydd prinder meddygon cymwys. Ar drothwy penderfyniad gan y Bwrdd mae Manylu yn siarad ag ymgyrchwyr a llefarydd ar ran y Bwrdd. A mae darlithydd yn ysgol feddygaeth Abertawe yn awgrymu bod angen i lywodraeth Cymru bennu cwota er mwyn gwneud yn siwr bod mwy o feddygon o Gymru yn cael eu hyfforddi yng Nghymru - er mwyn mynd i'r afael 芒'r prinder yn y proffesiwn.

29 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 1 Tach 2015 13:30

Darllediadau

  • Iau 29 Hyd 2015 12:31
  • Sul 1 Tach 2015 13:30

Podlediad Manylu

Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.

Podlediad