Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar 91Èȱ¬ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Gwasanaeth meddygon teulu yn glaf

Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt. An investigative look at topics in the news in Wales and beyond.

Mae meddygon teulu wedi dweud wrth Manylu ei bod hi’n argyfwng yn y gwasanaeth iechyd mewn rhai ardaloedd o Gymru oherwydd diffyg doctoriaid – ac nad oes digon yn cael ei wneud i ddod dros y broblem.
Bydd y rhaglen yn ymchwilio i’r rhesymau am y broblem recriwtio – ac yn siarad efo meddygon teulu sydd eisiau gweithio yng nghefn gwlad Cymru, ond yn dweud bod rheolau caeth newydd yn eu hatal nhw rhag gwneud hynny.
A dywed un cyn feddyg teulu bod angen hefyd i ganran uwch o bobl ifanc o Gymru gael eu hyfforddi yn y coleg meddygol yng Nghaerdydd, yn hytrach na gadael y wlad i gael eu hyfforddi – ac aros yno wedyn i fyw a gweithio.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 30 Tach 2014 19:30

Darllediadau

  • Iau 27 Tach 2014 12:31
  • Sul 30 Tach 2014 19:30

Podlediad Manylu

Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.

Podlediad