Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Etholiad 2019: 'Wal goch' yn troi'n fricsen
Mae rhywfaint o amheuaeth pwy oedd y cyntaf i ddefnyddio'r ymadrodd 'Y Wal Goch' i ddisgrifio rheolaeth Llafur o'r gogledd ddwyrain.
Fydd neb yn ei ddefnyddio yn yr etholiad nesaf, gan fod y 'wal' bellach yn fricsen.
Roedd y casgliad o seddau yn yr ardal - Wrecsam, Alun a Glannau Dyfrdwy, De Clwyd, Dyffryn Clwyd a Delyn - yn darged i'r Ceidwadwyr yn sicr.
Er bod polau piniwn wedi awgrymu y gallai'r Tor茂aid lwyddo, go brin fod Llafur wedi disgwyl colli pedair o'r pum sedd.
Mae'n anodd edrych ar hanes etholiadol yr ardal gan fod nifer o'r etholaethau yn rhai cymharol newydd.
Pan gafodd etholaeth De Clwyd ei chreu yn 1987, yr ymgeisydd Ceidwadol cyntaf oedd Boris Johnson, ac fe gollodd yn drwm.
Ond tra bod y Ceidwadwyr wedi ennill rhai o'r seddi o'r blaen am gyfnodau, abyddcolli Wrecsam yn ergyd fawr i Lafur.
Dyma etholaeth hynaf yr ardal - fe gafodd ei sefydlu ychydig dros ganrif yn 么l yn 1918 - a dyw Wrecsam erioed wedi ethol Ceidwadwr o'r blaen.
Sarah Atherton yw'r aelod seneddol Ceidwadol newydd yno, a hynny gyda mwyafrif digon swmpus o 2,131.
Ar draws yr ardal, fe gollodd Llafur bron 10% o'u cefnogaeth, a'r Ceidwadwyr a wnaeth elwa fwyaf o hynny.
Roedd yna enillion eraill nodedig i'r Ceidwadwyr wrth gwrs. Mae etholaethau Ynys M么n a Brycheiniog a Sir Faesyfed wedi bod yn las o'r blaen.
Roedd AS Pen-y-bont ar Ogwr yn Geidwadwr yn etholiad 1983 a dyw'r Ceidwadwyr heb wneud cystal yng Nghymru ers hynny. Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Paul Davies, fod hynny'n bwysig.
"Ar 么l ennill seddau fel Delyn a De Clwyd, mae gennym y nifer uchaf erioed o ASau Ceidwadol Cymreig yn y senedd," meddai.
"Mae'n glir - drwy ennill Pen-y-bont ac Ynys M么n, sydd heb gael AS Ceidwadol ers 32 o flynyddoedd - fod pobl Cymru am weld Brexit yn cael ei gyflawni, a dyna fyddwn ni'n ei wneud.
"Hoffwn estyn croeso arbennig i Sarah Atherton, Virginia Crosbie a Fay Jones fel yr ASau Ceidwadol benywaidd cyntaf i gynrychioli Cymru."