Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Diffyg ymgeiswyr ethnig Llafur 'yn siomedig'
Mae aelod blaenllaw Llafur Cymru wedi dweud ei bod hi'n siomedig nad oes gan y blaid unrhyw ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig (BAME) ar gyfer yr etholiad cyffredinol.
Dywedodd Shavanah Taj, dirprwy gadeirydd pwyllgor BAME y blaid, y dylid ystyried rhestrau byr pobl BAME yn unig.
Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig dri ymgeisydd BAME, y Ceidwadwyr Cymreig ddau ac un sydd gan Blaid Cymru.
Mae Plaid Brexit yn dweud nad ydyn nhw'n cofnodi ethnigrwydd eu hymgeiswyr.
Mae Llafur Cymru wedi dweud mai eu huchelgais yw i'w hymgeiswyr gynrychioli Cymru "fodern".
'Mater mewn ffocws'
Mae'r ddau ymgeisydd BAME Ceidwadol ac un Democrat Rhyddfrydol yn brwydro am seddi ble orffennodd y blaid yn ail yn yr etholiad diwethaf.
Ychwanegodd Ms Taj fod gweld pleidiau eraill yn dewis ymgeiswyr BAME mewn seddi allweddol yn rhoi'r mater mewn ffocws i'r Blaid Lafur.
Dydy Cymru erioed wedi cael Aelod Seneddol du neu Asiaidd.
"Dyma'r foment ble mae rhaid i chi ddeffro ac arogli'r coffi," meddai Ms Taj.
"Mae'n rhaid i ni gyd fynd gyda'r rhaglen, mae'n rhaid i ni dderbyn os yr ydym am ennill etholiadau mae'n rhaid i ni gael p诺l ehangach sy'n adlewyrchu'r math y Gymru rydym yn byw ynddi."
'Dyblu ein hymdrechion'
Dywedodd Llafur Cymru eu nod eisiau i'w hymgeiswyr "gynrychioli Cymru fodern yn llawn".
Dywedon nhw fod 57% o'u hymgeiswyr yn fenywod a bod 13% yn cynrychioli'r gr诺p LHDT+.
Ychwanegodd llefarydd: "Dros y flwyddyn ddiwethaf mae ein rhaglen ymgeiswyr y dyfodol wedi dechrau cefnogi aelodau BAME o'r blaid i sefyll mewn etholiadau ac rydym yn newid ein strwythurau er mwyn sicrhau fod cynrychiolaeth BAME drwy Llafur Cymru.
"Mae Llafur Cymru yn blaid o gydraddoldeb a byddwn yn dyblu ein hymdrechion i sicrhau fod hynny'n cael ei adlewyrchu yn ein cynrychiolwyr etholedig."
Dydd Iau yw'r dyddiad cau i ddewis ymgeiswyr.
Bydd mwy ar y stori hon ar Wales Live, 91热爆 One Wales am 22:30 nos Fercher.